Ailystyried beth yw cryfderau a gwendidau mewn gwirionedd. Cyflwyno Malcolm Gladwell “David and Goliath”.

Gan Joy kent. Dilynwch Joy ar Twitter: @Joy_ChwaraeTeg.

Dwi’n cael pyliau o ddarllen – pynciau penodol ambell waith ac awduron penodol dro arall. Yn ddiweddar, ailddarllenais waith awdur y deuthum ar ei draws ychydig flynyddoedd yn ôl pan ysgrifennodd ei bod hi’n haws datrys rhai problemau na’r disgwyl. Arweiniodd ei waith at drafodaeth gyfan am sut i fynd i’r afael â digartrefedd.

I unrhyw un sy’n anghyfarwydd â’i waith, caiff Malcolm Gladwell ei ddisgrifio fel un o feddylwyr mwyaf blaenllaw ein hoes, er fel yn achos unrhyw un sy’n cael ei ganmol i’r cymylau, mae’n hawdd dod o hyd i safbwyntiau eraill hefyd.

Waeth beth fo’ch barn ar ei gasgliadau, mae ganddo syniadau sy’n gwneud i ni feddwl ac mae’n ysgrifennu’n ddifyr.

Cafodd fy mhwl diweddar o ddarllen gwaith Malcolm Gladwell ei ysgogi wrth i mi godi ei lyfr diweddaraf, “David and Goliath” yn y maes awyr. Y ddadl ganolog yw y dylem ailystyried ein cyd-ddealltwriaeth o gryfderau a gwendidau canfyddedig.

Dwi’n siŵr y bydd pawb sy’n darllen y llyfr yn gwybod am enghraifft gyfarwydd; i mi, gwaith ymchwil ydoedd a ddangosai bod nifer anghyffredin o uchel o arlywyddion UDA wedi colli rhiant cyn eu bod yn 16 oed.

Mae’n awgrymu cysylltiad rhwng y trawma cynnar hwn a llwyddiant diweddarach, yn seiliedig ar y ddamcaniaeth bod llwyddo i ymdopi â rhywbeth na ellir ei amgyffred yn gynnar yn eich bywyd a hynny heb gael eich effeithio’n sylweddol yn gallu eich gwneud yn berson cryfach.

Yn y bôn, yr hen wireb “os nad yw’n eich lladd chi fe fyddwch chi’n gryfach person” sydd yma yn cael ei harchwilio’n fanylach.

Mae’n defnyddio llawer o waith ymchwil a deunydd pynciau eraill i gefnogi’r gosodiad canolog hwn. Mae ei ddadleuon a’r dystiolaeth a gyflwynir yn ddiddorol waeth a ydych yn cytuno ag ef ai peidio.

Ddim yn poeni am bethau dibwys.

Dwi’n credu mai un o’r rhesymau dros fy niddordeb i yn ei ddadleuon yw fy mod wedi bod yn barod i ac wedi bod yn euog ar yr un pryd o chwilio am elfennau cadarnhaol mewn sefyllfaoedd negyddol.

Er enghraifft, bu farw fy rhieni yn eu 50au pan ro’n i’n dal yn ifanc. Er bod hyn yn brofiad erchyll, roedd yna fanteision i’r ffaith mod i wedi dod wyneb yn wyneb â marwolaeth yn gynnar iawn – dwi ddim yn cymryd pethau’n ganiataol bellach, ddim yn poeni am bethau dibwys a fydda i ddim yn treulio llawer o amser yn gwneud rhywbeth sydd ddim yn werth chweil neu’n rhoi boddhad i mi.

Er bod y pwynt olaf yma’n gallu cythruddo pobl eraill, mae’n golygu nad ydw i’n debyg o edrych yn ôl yn difaru na fyddwn i wedi gwneud rhywbeth arall â’m bywyd.

Chwiliwch am gryfder rhywun yn hytrach na gwendid.

Dwi’n gweld y gallu hwn i chwilio am elfennau da mewn sefyllfa wael fel rhywbeth cadarnhaol (ond fe fyddwn i, byddwn?) ond dwi weithiau’n teimlo bod modd camddehongli hyn fel bod yn afrealistig neu’n waeth, peidio â gwerthfawrogi pa mor ofnadwy yw’r sefyllfa neu’r profiad.

Does neb yn amau effaith ddifrifol yr agenda gyni ar bobl ond dwi’n credu bod y llyfr wedi fy atgoffa i mai’r berthynas rhwng yr anawsterau a wynebwn a’n hymateb ni iddyn nhw sy’n llywio ein dyfodol – neu ddyfodol y bobl sy’n bwysig i ni.

Dyw teimlo’n flin dros ein hunain ac eraill yn newid dim – ond fe all dewis y gwersi cywir i’w dysgu o sefyllfa druenus.