Pam mae cymaint o bobl – yn ddynion ac yn fenywod – yn cytuno bod angen sicrhau cydraddoldeb cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd, ond mai ychydig iawn a fyddai’n galw eu hunain yn ffeministiaid?

Gan Joy Kent, Prif Weithredwr Chwarae Teg. Dilynwch ar Twitter: @joy_chwaraeteg.

Mae ymuno â Chwarae Teg a darllen llyfr gwych Caitlin Moran, How to be a woman, yn ddiweddar wedi gwneud i mi bendroni am hyn.

Rwy’n ymddiheuro i’r rhai sydd wedi bod yn meddwl am hyn ers tro byd – ond mae sgyrsiau a phrofiadau diweddar yn awgrymu:

Bod ffeministiaeth yn rhywbeth anghyson.

Mae menywod yn cael eu portreadu fel bodau rhyfeddol sydd efallai’n well na dynion ac ar yr un pryd yn dioddef yn sgil system a sefydlwyd i’w gweld yn methu.

Dwi’n meddwl fod dynion a menywod yn gwneud camgymeriadau drwy’r amser – weithiau am eu bod yn ddynol nid oherwydd y system na’u rhyw.

Er bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn dal i fodoli ac mai dim ond 10% o gyfoeth y byd sy’n eiddo i fenywod, sy’n ffigur brawychus, mae llawer o fenywod y DU, boed gam neu gymwys, yn teimlo bod eu tynged yn eu dwylo eu hunain i raddau helaeth.

Os yw’r mudiad ffeministaidd am ddenu amrywiaeth ehangach o fenywod, mae angen iddyn nhw deimlo ei fod yn adlewyrchu eu profiadau.

Mae rhai’n credu mai ystyr ffeministiaeth yw beio dynion am bob rhwystr strwythurol a chymdeithasol sy’n bodoli.

Dwi’n credu ein bod ni i gyd yn gynnyrch ein cymdeithas a dyw beio pobl ddim yn ffordd adeiladol o symud ymlaen yn gyffredinol.

Nid fy ffrindiau gwrywaidd na ‘nheulu i wnaeth atal menywod rhag cael y bleidlais na phenderfynu nad yw menywod mewn llawer o wledydd y byd yn cael mynd allan ar eu pen eu hunain.

Mae’n rhaid i ni fod yn fwy cynhwysol – mae yna ddynion arbennig sydd wedi bod ar ein hochr ni, ac yn parhau i’n cefnogi.

Weithiau, fe fyddwch yn teimlo bod rhaid i chi edrych ac ymddwyn mewn ffordd arbennig i fod yn ffeminist ac os na wnewch chi hynny, does dim croeso i chi yn y clwb.

Dwi ddim yn meddwl bod gan feirniadu menywod eraill sydd ddim yn hoffi neu’n casáu’r un pethau â chi unrhyw beth i’w wneud â bod yn ffeminist a’i fod yn tanseilio cysyniad chwaeroliaeth.

Dwi wedi galw fy hun yn ffeminist ers cyn co ac yn fy marn i, mae Chwarae Teg yn sefydliad ffeministaidd ac mae’r menywod a’r dynion sy’n gweithio yma i gyd yn ffeministiaid.

Rwy’n dweud hynny gan nad ydw i’n credu bod llawer o bobl yng Nghymru heddiw yn credu na ddylai menywod gael yr un hawliau a rhyddid economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol â dynion.

Cafwyd cynnydd aruthrol diolch i’r mudiad ffeministaidd er bod unrhyw ddadansoddiad o le’r fenyw yn yr economi neu fywyd cyhoeddus yn dangos bod llawer o waith i’w wneud eto.

Er mwyn i ni adeiladu ar y cynnydd hwnnw a sicrhau yr un chwarae teg o safbwynt cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol â dynion, efallai fod angen i ni fod yn fwy croesawgar a llai beirniadol o eraill sydd ar yr un ochr â ni ond nad ydyn nhw’n teimlo hynny ar hyn o bryd?