Cynhaliwyd trafodaeth yn Nhŷ’r Cyffredin i drafod effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar dlodi.

Yn 2011 / 12, roedd 13 miliwn o bobl yn byw mewn tlodi yn y DU ( Sefydliad Joseph Rowntree ). Gwelwyd gostyngiad mewn incwm cyfartalog a dychwelodd anghydraddoldeb i lefel nas gwelwyd ers canol y 1990au ( Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ).

Gan Natasha Davies, Partner Polisi Chwarae Teg. Dilynwch ar Twitter: @daviesna2.

Wrth i lefelau tlodi ddod yn bryder cynyddol, mae toriadau mewn gwariant cyhoeddus wedi golygu colli swyddi a gwasanaethau sector cyhoeddus yn ogystal â’r diwygiadau mwyaf i’r system lles ers degawdau.

Mae’r rhai hynny sy’n gweithio yn y sector gwrthdlodi’n pryderu’n arbennig am y diwygiadau lles ac mae tystiolaeth gynyddol yn dangos bod menywod yn dioddef effeithiau’r diwygiadau hyn yn waeth na dynion.

Mae eu sefyllfa yn y farchnad lafur a’r duedd iddynt fod yn ennill yr ail gyflog yn y cartref yn golygu mai menywod sydd fwyaf tebygol o fod ar eu colled a chael dim budd yn sgil y diwygiadau lles.

Nod Credyd Cynhwysol, y newid unigol mwyaf a wnaed i’r system budd-daliadau, yw sicrhau bod ‘gweithio’n talu’.

Ond oherwydd y pwyslais ar sicrhau bod o leiaf un person ymhob cartref mewn gwaith nid yw’n cynnig llawer o gymhelliant i ail berson sy’n ennill cyflog, sef y fenyw fel arfer, ystyried ymuno â’r gweithle neu gynyddu oriau gwaith.

Mae llawer o’r newidiadau’n debygol o effeithio ar rieni sengl yn waeth na neb, ac mae 90% o’r rheiny’n fenywod. Tra bod diffyg gofal plant fforddiadwy’n parhau i fod yn rhwystr sylweddol i gyflogaeth, bydd diwygiadau a allai olygu bod rhieni sengl yn colli mwy na 12% o’u hincwm erbyn 2014-15 yn gwthio menywod yn bellach fyth o’r gweithle ( Undoing 30 Years of Progress – Victoria Winkler ).

Mae diwygiadau i’r budd-dal tai yn destun pryder hefyd gan fod 54% o denantiaid tai cymdeithasol yn fenywod.

Mae’r ‘dreth ystafell wely’ yn cael effaith fawr yng Nghymru oherwydd diffyg cartrefi llai o faint sydd â 1 neu 2 o lofftydd. Mae yna arwyddion eisoes bod newid i system o daliadau budd-dal uniongyrchol yn golygu bod landlordiaid preifat yn llai awyddus i rentu i bobl sy’n hawlio budd-daliadau.

Er bod elfennau unigol yn y rhaglen diwygio lles, fel y rhai a restrir uchod, yn peri cryn bryder, y pryder ehangach yw effaith gronnus yr holl newidiadau hyn ar fenywod, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd bresennol a phan fo lefelau diweithdra’n uchel.

Er bod asesiadau effaith yn cael eu cynnal ar bob penderfyniad polisi unigol, prin y mae’r rhain yn ystyried yr effaith gronnus ac maent yn cymryd yn ganiataol yn aml bod dynion a menywod yn dechrau o’r un man, er mai anaml iawn y mae hyn yn wir.

Felly beth yw’r ateb? Mae angen mynd i’r afael â phenderfyniadau gwario mewn ffordd sy’n ystyried yn llawn y gwahaniaethau rhwng sefyllfa byw a chyflogaeth dynion a menywod.

Bydd hyn yn galluogi llunwyr polisi i sicrhau bod unrhyw benderfyniadau gwariant yn wirioneddol niwtral o ran y rhywiau trwy ystyried gwahanol brofiadau dynion a menywod yn cael eu heffeithio gan gyllidebau a sicrhau nad yw penderfyniadau gwariant yn effeithio ar unrhyw un mewn ffordd sy’n annheg.