Ar 11 Mehefin fe wnes i a 2 gydweithiwr hedfan i Malmö, Sweden i fynychu Fforwm Nordisk 2014, cynhadledd a oedd yn dwyn ynghyd 15,000 o ddynion a menywod ledled gwledydd Llychlyn er mwyn galw am Weithredu Newydd ym maes Hawliau Menywod.

Cafodd pawb yn y gynhadledd ardderchog hon eu hysbrydoli gan yr unigolion a’r sefydliadau a gyfrannodd at y drafodaeth fywiog ac adeiladol ynglŷn â’r hyn sydd angen ei wneud i gyflymu’r broses o sicrhau cydraddoldeb rhywiol.

Gan Natasha Davies, Partner Policy. Llun Ch/Dde: Dilynwch Natasha ar Twitter: @daviesna2. Katie Cole: @KCole1811. Emma Tamplin: @Mrs_Tamplin.

O safbwynt Cymru, rwy’n credu bod modd i ni ddysgu llawer o brofiad gwledydd Llychlyn wrth geisio dileu’r rhwystrau sy’n parhau i atal menywod rhag cyflawni a ffynnu, ond rwy’n awyddus i ganolbwyntio ar un pwynt.

Mae cydraddoldeb rhywiol ar frig yr agenda wleidyddol yn y rhan fwyaf o wledydd Llychlyn, ac mae adrannau penodol o’r llywodraeth neu gyrff a gefnogir gan y llywodraeth yn casglu’r data gofynnol a’r arferion gorau i lywio datblygiad polisi.

Yn wahanol iawn i’r sefyllfa yn y DU, nid oedd y label ‘ffeminydd’ fel pe bai’n codi ofn ar neb.

Nid yw’r angen am gydraddoldeb rhywiol yn cael ei drafod fel is-bwnc. Mae’n cael ei drafod yn bendant yng nghyd-destun lles cyffredinol cymdeithas.

Dyma un peth pendant y gall Cymru a’r DU ei ddysgu o wledydd Llychlyn: Mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth i gydraddoldeb rhywiol wrth ddatblygu polisi.

Mae cynorthwyo 50% o’r boblogaeth i wireddu eu potensial yn llawn yn dda i fenywod, eu teuluoedd a’r economi ac yn hanfodol er mwyn creu cymdeithas deg a chynaliadwy.

Un digwyddiad a greodd argraff fawr arna’ i ac sy’n crynhoi agwedd gwledydd Llychlyn tuag at gydraddoldeb rhywiol oedd gweld arweinydd un o brif bleidiau gwleidyddol Sweden yn sefyll ar y llwyfan a’i ddisgrifio ei hun fel ffeminydd. Aeth ymlaen i ddweud wrth y gynulleidfa y byddai’n creu llywodraeth â chydbwysedd rhwng y rhywiau ac agenda ffeministaidd pe bai’n cael ei ethol.

Nid yw gwledydd Llychlyn wedi ennill y frwydr ar gyfer cydraddoldeb rhywiol. Roedd pawb y buom yn siarad â nhw yn gweithio i oresgyn anawsterau a rhwystrau yn eu gwledydd, rhai ohonynt yn debyg i’r problemau sy’n wynebu Cymru a’r DU.

Fodd bynnag, oherwydd y data sydd ar gael iddynt a’r adnoddau sy’n cael eu neilltuo i ddatrys y problemau hyn, byddan nhw’n parhau i wneud cynnydd yn gyflymach o lawer na’r DU.

Os ydym am ennill tir, mae’n rhaid i ni ddilyn eu hesiampl a sicrhau bod camau gweithredu i fynd i’r afael â chydraddoldeb rhywiol ar frig yr agenda wleidyddol.