“Mae menywod yn goroesi trais ac yna’n gorfod byw ar awyr iach, does gennym ni ddim byd, dim celfi, dim bwyd, dim modd i gael cyllid cyhoeddus, mae angen arian i fyw, neu byddwn ni naill ai ar y clwt neu’n marw… Ydy’r llywodraeth yn deall ein bod yn byw ar ddim byd?”(1)

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Heddwch (21 Medi) rydym ni’n annog llywodraeth y DU i wrth-droi polisïau diwygio lles sy’n cael effaith mor niweidiol ar fenywod sy’n profi cam-drin domestig ar eu taith at ddiogelwch, urddas, parch a rhyddid rhag cam-drin.

Bydd un fenyw mewn tair yn profi cam-drin domestig neu drais rhywiol ar ryw bwynt. Y llynedd yng Nghymru, cafodd 14,129 o oroeswyr cam-drin gymorth gan ein rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau cam-drin domestig, gan gynnwys 1,596 o fenywod a 1,221 o blant a orfodwyd i ddianc i lochesi am ddiogelwch a chymorth.

Mae’r ffaith fod menywod yn profi’r fath drais, cam-drin a rheoli’n anghymesur, a hynny wrth law dynion maen nhw’n eu hadnabod fel arfer, yn amlygu perthynas o bŵer anghyfartal, yn achos ac yn ganlyniad i anghydraddoldeb rhwng menywod a dynion ac yn rhwystr at gyflawni cydraddoldeb a hawliau dynol. O ganlyniad, nid yw’n anochel a gellir ei atal gyda’r ewyllys gwleidyddol a’r adnoddau angenrheidiol.

Eto i gyd yn lle hynny mae polisïau llywodraeth y DU yn tanseilio menywod a phlant sy’n cael eu cam-drin, ac yn gorfodi goroeswyr i wneud dewisiadau peryglus rhwng tlodi a diogelwch.

Rhai o’r polisïau sy’n peri’r pryder mwyaf yw’r cyfyngiad ar gredyd treth plant i ddau blentyn gydag eithriad i’r rheini a genhedlwyd drwy drais, cyflwyno Credyd Cynhwysol fel un taliad i’r cartref sy’n cynyddu dibyniaeth ar bartner, a’r cap ar fudd-daliadau sy’n lleihau cyfanswm y cymorth ariannol y gall menywod ei dderbyn.

Ble mae’r parch at fenywod, os cânt eu gorfodi i ddatgelu bod eu trydydd plentyn wedi’i genhedlu o ganlyniad i drais neu reolaeth gymhellol, er mwyn osgoi cap ar eu budd-daliadau? Hyd yn oed wedyn, mae polisi’r llywodraeth yn ei gwneud yn ofynnol i fenyw adael y sawl sy’n cam-drin er mwyn bod yn gymwys am yr eithriad, gan ddatgelu diffyg dealltwriaeth llwyr o’r risgiau sy’n wynebu menywod a phlant sy’n gadael, sy’n beryg bywyd.

Ble mae’r urddas i fenywod ar Gredyd Cynhwysol, sy’n golygu bod taliadau’n mynd i un cyfrif i bob teulu bob mis, a thrwy wneud hynny yn cefnogi ac yn galluogi cam-drin ariannol, sydd eisoes yn nodwedd gyffredin mewn sawl perthynas? Y llynedd, profodd 38% o fenywod a gyrchodd gymorth arbenigol gam-drin ariannol(2) ac ar draws Cymru mae un ym mhob saith oedolyn wedi adrodd am brofi cam-drin ariannol yn eu perthynas bresennol neu flaenorol.(3)

Ble mae’r diogelwch i fenywod sy’n wynebu rheolaeth gymhellol, gyda’u gwariant yn cael ei fonitro, dyledion yn adeiladu yn eu henw, neu sy’n cael eu gorfodi i ddwyn gan y sawl sy’n cam-drin? Mae menywod wedi dweud wrthym am gyflawnwyr sy’n cadw arian yn ôl ac yn rheoli prynu cynhyrchion mislif a dillad, sy’n effeithio ar eu hiechyd, eu llesiant, eu hyder ac yn eu gadael nhw a’u plant heb ddim i’w helpu ond am y banc bwyd.

Mae’r cap ar fudd-daliadau’n effeithio’n anghymesur ar deuluoedd unig rieni, gyda 90 y cant o’r rheini’n fenywod. Mae lleihau’r cyfanswm o gymorth ariannol y gall rhywun ei dderbyn ar yr adeg o angen mwyaf yn golygu bod menywod yn meddwl ddwywaith cyn gadael y cam-drin. Mae gadael heb ddim ond y dillad rydych chi’n eu gwisgo hefyd yn ei gwneud yn anodd dychwelyd i’r gwaith neu ddod o hyd i gyflogaeth sefydlog, a gall fynd â chi i ffwrdd o’ch rhwydwaith cymorth – sydd yn arbennig o bwysig i unig rieni sydd angen gofal plant.

Yn y pen draw, mae gan fenywod sy’n profi cam-drin domestig ddewis clir: gadael a wynebu caledi cynyddol, tlodi a digartrefedd, neu aros gyda’r sawl sy’n cam-drin. Mae pethau’n waeth fyth i fenywod du a lleiafrifol ethnig sy’n profi anfanteision niferus a chamwahaniaethu oherwydd eu statws mewnfudo. Does gan fenywod sy’n methu â chael cyllid cyhoeddus ddim modd i gael arian i fyw arno ac nid yw’n hawdd dod o hyd i le diogel drwy loches neu dai â chymorth er mwyn dianc rhag y cam-drin.

Yn union fel cam-drin domestig, mae’r polisïau diwygio lles hyn yn ganlyniad i ymddygiad pwrpasol, bwriadol sy’n dwysau profiadau menywod o gam-drin ariannol, eu dibyniaeth ar y sawl sy’n cam-drin ac sy’n effeithio ar eu gallu i fanteisio ar wasanaethau sydd wedi’u cynllunio i gynnig gwarchodaeth, diogelwch a chefnogaeth.

Dyna pam rydym ni’n galw ar Lywodraeth y DU i fod yn atebol am eu gweithredoedd, cynnal hawliau menywod a phlant sy’n oroeswyr a gwrth-droi’r polisïau diwygio lles hyn. Tan hynny, mae hawliau, diogelwch ac urddas menywod ar draws Cymru a’r DU yn parhau mewn perygl.

 

1 Goroeswr a ddyfynnir yn Rehman Y (2016) ‘Are you listening and am I being heard?’ Cymorth i Ferched Cymru

2 Adroddiad blynyddol aelodaeth Cymorth i Ferched Cymru “2016/17 Data from Specialist Services in Wales”

3 Sharp-Jeffs, N, (2016) Money Matters: http://www.refuge.org.uk/files/Money-Matters.pdf