Fel rhan o’n gwaith i helpu i gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf mae Jane Bryant, un o gyfeillion Chwarae Teg, yn rhannu stori Bridget Kearney â ni, sef ei hen fam-gu.

Mae’r atgof personol hwn yn helpu i ddangos sut y bu i’r Rhyfel effeithio ar fenywod a’u teuluoedd.

Gan Jayne Bryant. Twitter: @JBryantWales.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Bridget Kearney, fy hen fam-gu, yn gweithio yn Ffatri Ffrwydron Kynoch yn Arklow, Swydd Wicklow.

Roedd Kynoch yn ffatri breifat ar gyfer arfau rhyfel ac roedd yn cyflogi miloedd o ddynion, menywod a phlant yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd dros 400 o adeiladau ar y safle ac roedden nhw’n cynhyrchu popeth o fwledi i daflegrau enfawr.

Dywedodd Bridget wrth fy nhaid bod ffrwydradau o dro i dro yn y gweithfeydd. Fodd bynnag, tua 3am ar 1 Medi 1917 bu ffrwydrad anferth yn ffatri Kynoch. Bu farw 27 o bobl ac roedd y ffrwydrad i’w glywed hyd at 8 milltir i ffwrdd. Petai wedi digwydd yn ystod y dydd, mae’n debygol y byddai cannoedd wedi marw. Sefydlwyd ymchwiliad ond ni ddaethpwyd i unrhyw gasgliad pendant ynglŷn ag achos y ffrwydrad. Mae cofeb yn y fynwent leol yn nodi bedd cyffredin y rhai a fu farw.

Roedd Bridget bob amser yn mynnu na ddylai fy nhaid weithio i lawr yn y mwynfeydd neu mewn unrhyw ffatri arfau oherwydd ei phrofiad personol. Byddai’n sôn am y ffrindiau a gollodd yn ystod ffrwydrad 1917 ac am yr amodau gwael yr oedd hi ac eraill wedi’u dioddef yn y ffatri.

Byddai fy nhad-cu yn dweud ei bod yn sôn llawer wrtho am y rhai a gafodd eu gwenwyno gan fygdarth gwenwynig gan beri i liw croen rhai ohonyn nhw droi’n felyn ( oherwydd y cemegyn TNT a ddefnyddiwyd yn y ffrwydron ).

Mae’n debyg nad oedd pocedi yn yr iwnifform yr oedden nhw’n ei wisgo fel nad oedd modd cadw sigaréts a fyddai’n berygl o greu temtasiwn i’w cynnau!

Cafodd ffatri Kynoch yn Arklow ei chau ar ôl y rhyfel a symudwyd y gwaith cynhyrchu i Dde Affrica. Penderfynwyd ar y cam hwn oherwydd y sefyllfa ymfflamychol gynyddol yn Iwerddon ar y pryd.

Ganed Bridget ym 1889 yn Arklow a daeth i Glyncorrwg, yn y De ym 1922. Roedd ganddi hi a’i gŵr William, a oedd yn gweithio ar y llongau fel taniwr, 4 o blant: ganed Michael (a fu farw’n faban) a Maggie yn Iwerddon a ganed Will ( fy nhad-cu ) ac Ernie yng Nglyncorrwg.

Bu farw Bridget yn ei chartref yng Nglyncorrwg ym 1942 yn 53 oed. Roedd wedi bod yn smwddio crys i’m tad-cu i’w wisgo i fynd allan ar ôl ei waith. Ei geiriau olaf i’m tad-cu oedd ei thristwch bod mwy o ddynion wedi marw’r diwrnod hwnnw yn yr Ail Ryfel Byd a’i bod yn cydymdeimlo’n ddwys â’u mamau.

Byddwn wedi hoffi cael y cyfle i gyfarfod â Bridget. Roedd fy nhad-cu yn sôn amdani’n aml. Rwy’n ceisio dychmygu sut brofiad oedd e a sut roedd hi’n teimlo am fod yn rhan o newid mor sylweddol mewn cymdeithas lle’r oedd menywod yn cael eu galw i fynd i weithio.