Yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gwelwyd math newydd o ryfela.

Am y tro cyntaf yn ei hanes, roedd y byd gorllewinol yn wynebu realiti rhyfel byd gyda chanlyniadau a goblygiadau a fyddai’n cael eu teimlo nid yn unig ar y ffrynt ond hefyd ymhob tref a dinas nôl gartref.

Wrth i’r rhyfel fynd rhagddo, roedd Llywodraeth y DU yn wynebu prinder llafur cynyddol wrth i fwy a mwy o ddynion gael eu galw i wasanaethu yn y lluoedd arfog. Law yn llaw â hyn, roedd galw cynyddol am eitemau a oedd yn hanfodol i’r rhyfel, megis arfau. Doedd fawr o ddewis ond troi at y menywod i lenwi’r bwlch.

I lawer o fenywod, roedd yr alwad hon i wasanaethu yn un i’w chroesawu. Ym mis Gorffennaf 1915, trefnwyd gwrthdystiad mawr yn Llundain gan rai o fenywod blaenllaw’r dydd, gan gynnwys Emmeline Pankhurst, a bu’r menywod hyn yn gorymdeithio dros eu ‘hawl i wasanaethu’.

Daeth menywod hefyd ynghyd mewn ffyrdd eraill i gefnogi’r rhyfel. Ym 1915, sefydlwyd y WI neu’r Sefydliad y Merched cyntaf yn Ynys Môn i helpu gyda’r gwaith o gynhyrchu bwyd a’i gadw.

Pan gyflwynwyd consgripsiwn ym 1916.

Roedd mwy o angen nag erioed i fenywod gyflawni rolau’r dynion a oedd wedi gadael am y rhyfel. Roedd y Llywodraeth yn fwy eiddgar nag erioed i gael cymaint o fenywod ag oedd angen i’r gweithle i gadw Prydain i symud a chyfrannu at yr ymdrechion rhyfel.

Roedden nhw’n defnyddio propaganda i annog menywod i wneud eu rhan ac yn rhoi cymhorthdal ar gyfer agor creches mewn ffatrïoedd arfau fel y gallai’r menywod gefnogi’r ymdrech ryfel yn ogystal â chyflawni eu dyletswyddau fel gwragedd a mamau.

Erbyn mis Ionawr 1918, roedd nifer y menywod mewn gwaith cyflogedig wedi codi i 5 miliwn, i fyny o 3.2m ym 1914. Roedd miliwn o fenywod yn cael eu cyflogi gan y Weinyddiaeth Arfau, roedd 250,000 wedi dechrau gweithio ar y tir ac roedd y nifer a oedd yn gweithio ym maes cludiant wedi cynyddu 544% ac mewn gwaith metel 376%.

Mae’r llif yma o fenywod i’r gweithle, ac i swyddi a oedd yn draddodiadol yn rhai i ddynion mewn sector rydym ni bellach yn ei adnabod fel STEM ( gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ) yn cael ei weld gan rai fel un o effeithiau mwyaf arwyddocaol y rhyfel ar fenywod.

Bu’n fodd i fenywod elwa ar gyflogau uwch, mwy o annibyniaeth ac i fwynhau gweithgareddau hamdden fel pêl-droed, nad oedden nhw wedi gallu eu mwynhau cyn hynny.

Er bod y ffordd yr oedd menywod yn cael eu gweld yn y gweithle yn amrywio’n fawr ar y pryd ac nad oedden nhw bob amser yn cael eu croesawu, agorodd y rhyfel y drws i fwy o annibyniaeth i fenywod – annibyniaeth y byddai llawer yn gyndyn iawn o’i ildio yn nyddiau heddwch.

Gan Natasha Davies. Twitter: @daviesna2.