Mae prinder parhaus o fenywod ym maes gwyddoniaeth – dim ond tua 30% o weithwyr cyflogedig sy’n fenywod.

Nid yn unig y mae menywod rywsut neu’i gilydd yn cael eu hannog i beidio â dilyn gyrfa mewn gwyddoniaeth, ond mae’n ymddangos hefyd nad yw menywod sy’n dilyn gyrfa yn y maes yn cael eu gwobrwyo yn yr un modd â’u cydweithwyr gwrywaidd.

Gan Alice Gray. Dilynwch ar Twitter: @alicejanegray. Blog Alice Gray: mind-ful.blogspot.co.uk.

Ym maes gwaith ymchwil gwyddonol, mae pa mor adnabyddus ydych chi yn dibynnu ar lefel y cyllid a roddir i’ch gwaith ymchwil (sy’n seiliedig yn fras ar ba mor aml mae ymchwilwyr eraill yn y diwydiant gwyddonol wedi defnyddio’ch gwaith chi i lywio eu gwaith hwythau) a gwobrau sy’n cynyddu’ch proffil.

Yr uchaf ei bri o’r rhain yw Gwobr Nobel. Mae’n ymddangos nad yw menywod yn y diwydiant yn cael y gwobrau hyn – mae 72% o gyllid ymchwil ar gyfer pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn cael ei ddyfarnu i ddynion.

At hyn, dim ond 2.9% o Wobrau Nobel ar hyd y blynyddoedd sydd wedi’u rhoi i fenywod.

Wrth gwrs, mae menywod yn cynhyrchu gwaith ymchwil i safon ragorol ond nid ydyn nhw’n cael eu gwobrwyo am eu gwaith, felly a oes rhagfarn sefydliadol ar sail rhyw ym maes gwyddoniaeth?

Yr achos enwocaf sy’n cefnogi’r syniad hwn yw gwaith Rosalind Franklin, bioffisegydd o Brydain a oedd yn ceisio canfod strwythur DNA yn y 1940au.

Fideo: Menywod mewn STEM gan Alice Gray: youtube.com/watch?v=Kp3lNokbqEc.

Fe ddefnyddiodd hi dechneg delweddu pelydr-x i gynhyrchu data a oedd yn dangos strwythur deulinynnol DNA.

Fodd bynnag, pan wnaeth Crick a Watson “ddarganfod” strwythur DNA yn y 1950au a dod yn enwog tu hwnt, ni wnaethant sôn yr un gair am waith Rosalind Franklin, er ei ddylanwad aruthrol ar eu model nhw o DNA. Ym 1962, enillodd Crick a Watson Wobr Nobel, tra bu farw Franklin yn 37 oed heb gael unrhyw gydnabyddiaeth i’w gwaith arloesol.

Ond nid dyma’r unig enghraifft o fenywod mewn gwyddoniaeth yn cael eu trin fel hyn, ac nid rhywbeth sy’n perthyn i’r oes a fu ydyw chwaith.

Ym 1967, adeiladodd yr Athro Jocelyn Bell Burnell ( astroffisegydd ) delesgop radio a, thrwy hynny, darganfyddodd y pylsar. Yn ystod y gwaith, mynodd y sawl oedd yn ei chynghori ar ei thraethawd hir mai anomaledd oedd y data. Ond dyfalbarhaodd, a phrofodd fodolaeth y pylsar yn y pen draw. Er  gwaethaf hyn, dyfarnwyd Gwobr Nobel i’r sawl oedd yn ei chynghori ar ei thraethawd ( Antony Hewish ) a chafodd hi ei hanwybyddu.

Ond a yw’r enghreifftiau hyn yn profi bod rhagfarn sefydliadol ar sail rhyw mewn gwyddoniaeth mewn gwirionedd?

Mae Dr Ben Barres wedi sôn heb flewyn ar dafod am y problemau mae e wedi eu hwynebu yn ystod ei yrfa wyddonol fel gwryw trawsrywiol.

Cyn ei lawdriniaethau cywiro rhywedd, bu’n gweithio yn y diwydiant fel menyw yn gorfforol a sylwodd ar wahaniaeth enfawr yn y modd roedd yn cael ei drin wedyn. Yn wir, wrth gyflwyno’i ddata clywodd rywun yn dweud bod ei waith yn llawer llawer gwell na gwaith ei chwaer.

Mae rhai’n dadlau nad oes ots bod llai o fenywod yn y byd gwyddoniaeth neu lai o gyllid ar gyfer gwaith ymchwil gwyddonwyr sy’n fenywod.

Ond nid yn unig y gallai anghydraddoldeb ym maes gwyddoniaeth effeithio ar y menywod sy’n gweithio ynddo, ond hefyd drwy gyfeirio cyllid i ffwrdd o’u gwaith ymchwil, mae’n bosibl ein bod ni’n rhwystro datblygiadau gwyddonol pellgyrhaeddol.