Derbynnir ar y cyfan fod menywod yn fwy cyndyn i fentro na dynion a bod hyn yn eu rhwystro rhag datblygu eu gyrfaoedd.

Ond a oes mwy i’r gwir na hyn tybed . . .

Gan Joy Kent, Prif Weithredwr Chwarae Teg. Dilynwch ar Twitter: @joy_chwaraeteg.

Yn y digwyddiad Grŵp diwethaf, bu Helen Humphreys yn siarad am ei gyrfa yn McDonalds, gan ddringo’r ysgol o fod aelod o’r tîm i fod yn Is-Lywydd Gweithrediadau.

Un o’r rhesymau am ei llwyddiant anhygoel oedd ei pharodrwydd i fentro ar y daith, er enghraifft, cytunodd i reoli adran TG er nad oedd yn arbenigwr TG.

Sbardunodd hyn drafodaeth yn y grŵp am y gwahaniaethau rhwng dynion a menywod wrth ymgeisio am swyddi a sut y derbynnir yn gyffredinol fod menywod am fod yn hyderus y gallant wneud popeth bron iawn yn y disgrifiad swydd, tra bydd dynion yn fwy tueddol o roi cynnig arni hyd yn oed os nad oes ganddynt yr holl sgiliau a’r galluoedd gofynnol.

Wrth i’r sgwrs ddatblygu, dechreuais amau a yw’n wir mai dynion yw’r rhai sy’n barod i fentro a bod menywod yn osgoi mentro ym mhob agwedd ar eu bywydau?

Does gen i ddim tystiolaeth gadarn o hyn, ond dyma sut y gwela’ i bethau . . . efallai bod pobl yn fwy tebygol o fentro mewn sefyllfaoedd lle maen nhw’n teimlo mewn rheolaeth lwyr ac oherwydd y ffordd rydym ni wedi’n magu, gydag ennill bara menyn yn dod yn gyntaf i ddynion a bod yn ofalwyr yn dod yn ail, a gyda bod yn ofalwyr yn dod yn gyntaf i fenywod ac ennill bara menyn yn dod yn ail.

Mae hyn yn golygu ein bod yn fwy parod i fentro yn y cartref neu’r gwaith, yn dibynnu ar ein rhyw.

Gwn am lawer o fenywod sydd o bosib yn ffitio’r stereoteip hwn – yn teimlo’n ddihyder mewn sefyllfa nad ydynt yn 100% hyderus ynddi a sut y bydd pethau’n mynd; ond byddant yn hapus i fentro bod yn famau heb feddwl ddwywaith ai dyma’r bywyd iddyn nhw, gan roi’r gorau i’w gyrfaoedd dros dro i fagu plant a rhoi eu diogelwch ariannol yn nwylo rhywun arall – sy’n ymddangos yn dipyn o risg i mi!

Dydw i ddim yn siŵr a fyddai llawer o ddynion yn fodlon mentro i’r fath raddau.