A dweud y gwir, i’r rhan fwyaf o bobl dyw caffael cyhoeddus ddim yn bwnc cyffrous iawn!

Mae erthygl olaf ond un ein cyfres ‘O dan sylw’ dros yr haf, yn ystyried caffael cyhoeddus a sut gellir ei ddefnyddio fel anodd i hybu cydraddoldeb.

Ond y realiti yw bod sector cyhoeddus Cymru yn gwario tua £5.5 biliwn y flwyddyn ar nwyddau a gwasanaethau allanol. Ar hyn o bryd mae tua 55% o’r arian hwn yn aros yng Nghymru, gan greu nifer sylweddol o swyddi yn ein cymunedau.

Caffael a chydraddoldeb.

Mae caffael yn gyfrwng pwerus ac yn un o gymwyseddau Llywodraeth Cymru. Rydyn ni am ei weld yn cael ei ddefnyddio i’r eithaf fel anodd a fydd yn helpu i fynd i’r afael â thlodi ac yn hybu cydraddoldeb yn y cymunedau hyn.

Wrth ddyfarnu gwaith drwy’r broses gaffael, gall y sector cyhoeddus ofyn i gwmnïau fodloni rhai gofynion penodol fel cadw at egwyddorion peidio â gwahaniaethu ac annog cydraddoldeb.

Yn ei Datganiad Polisi ar Gaffael, mae Llywodraeth bresennol Cymru wedi dangos ymrwymiad i ddefnyddio caffael er mwyn sicrhau canlyniadau cymdeithasol.

Gallai nawr fynd gam ymhellach a’i gwneud yn ofynnol i gyflogwyr a ariennir gan y llywodraeth ddeall materion rhywedd eu sefydliad a chymryd camau i fynd i’r afael â nhw.

Er enghraifft, gellid defnyddio caffael i helpu Cymru i ddatblygu i fod yn wlad Cyflog Byw.

Un o heriau Cymru yw cyflog isel ac mae’n amlwg hefyd fod hwn yn fater sy’n ymwneud â rhywedd. Caiff 270,000 o swyddi, a wneir gan fenywod yn bennaf, eu hystyried yn swyddi cyflog isel ac mae 25% o weithlu Cymru yn ennill llai na’r Cyflog Byw.

Er na all Llywodraeth Cymru osod isafswm cyflog sy’n wahanol i Loegr, gellid gwneud mwy i annog pobl i osod y Cyflog Byw fel y lleiafswm cyflog.

Man cychwyn da fyddai sicrhau bod pob corff cyhoeddus yn talu’r Cyflog Byw fel lleiafswm.

Mae rheolau caffael Ewropeaidd yn ei gwneud yn anodd i gontractwyr roi gofyniad ar gontractwyr i dalu mwy nag Isafswm Cyflog Cenedlaethol y DU, ond cafwyd trafodaethau yn yr Alban i annog y Cyflog Byw yn rhagweithiol a gellid efelychu hyn yng Nghymru.

Caffael a Brexit.

Gall canlyniad Refferendwm yr UE a Brexit roi gogwydd newydd ar y sefyllfa.

Roedd rhywfaint o rethreg y refferendwm yn canolbwyntio ar reolau caffael yr UE a sut roedden nhw’n effeithio ar fusnesau yn y DU.

Byddai Brexit yn rhyddhau’r DU o’r rheoliadau hyn ac yn galluogi’r Llywodraeth i bennu ei rheolau ei hun mewn perthynas â gwaith caffael.

Fodd bynnag, Cyfarwyddeb yr UE ar Gaffael sydd ar hyn o bryd yn amlinellu’r gofyniad i ystyried effeithiau cymdeithasol fel rhan o’r broses gaffael.

Does dim sicrwydd y byddai’r gofyniad hwn, a’i bosibiliadau cysylltiedig i hybu cydraddoldeb, yn cael ei gadw fel rhan o’r rheolau newydd.

Symud Ymlaen.

O ble bynnag y daw rheoliadau caffael yn y dyfodol, dylai’r Llywodraeth barhau i ddangos ei hymrwymiad i wireddu ei hamcanion cymdeithasol drwy’r broses gaffael, a dechrau ei ddefnyddio er mwyn annog cyflogwyr i gydnabod anghydraddoldebau ar sail rhyw yn eu sefydliad a mynd i’r afael â nhw.

Byddai hyn yn arwydd o ymrwymiad o’r newydd gan y Llywodraeth gyfan i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a allai gyfrannu at strategaeth brif ffrwd ar rywedd. Darllenwch fwy yn ein herthygl nesaf…