Mae’r rhesymau dros gynyddu nifer y menywod mewn arweinyddiaeth ym myd busnes, bywyd cyhoeddus a gwleidyddiaeth yn hysbys i bawb.

Nawr mae’n bryd gweithredu.

Mae’r nesaf yn ein cyfres o erthyglau ‘O Dan Sylw‘ yn trafod menywod mewn arweinyddiaeth.

Yng Nghymru mae 42% o’n ACau presennol yn fenywod. Er bod hyn yn cymharu’n dda â seneddau eraill, mae wedi llithro o fwy na 50% pan grëwyd y Cynulliad yn y lle cyntaf.

Mewn mannau eraill, dim ond 9 o’n 40 AS sy’n fenywod ac mewn cynghorau lleol dim ond 27% o gynghorwyr lleol sy’n fenywod.

Nid yw’r darlun fawr gwell wrth edrych ar arweinyddiaeth yn y sector cyhoeddus a phreifat.

Dim ond 2% o brif weithredwyr neu gyfwerth 100 busnes mwyaf blaenllaw Cymru sy’n fenywod, dim ond 18% o brif weithredwyr llywodraeth leol a dim ond 36% o brif weithredwyr y 100 elusen fwyaf yng Nghymru sy’n fenywod.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r achos dros fynd i’r afael â diffyg cynrychiolaeth menywod ym maes arweinyddiaeth a gwneud penderfyniadau wedi cael ei fynegi’n gwbl glir.

Erbyn hyn mae yna gonsensws gwleidyddol eang bod byrddau, seneddau a thimau arweinyddiaeth cytbwys o ran rhyw yn well i fenywod, i fusnes ac i gymdeithas.

O’r pum plaid a gynrychiolir yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd, roedd y mwyafrif yn cynnwys addewidion yn eu maniffestos i weithredu i gymryd camau i’r afael â’r anghydbwysedd.

Mae’n bryd gweithredu.

Gwyddom pa faterion sydd wrth wraidd diffyg cynrychiolaeth menywod ym maes arweinyddiaeth a gwneud penderfyniadau. Yn awr, wrth i ni gychwyn ar dymor newydd yn Llywodraeth Cymru, mae’n bryd gweithredu.

Bydd Bil Cymru, sydd ar ei daith drwy Senedd y DU ar hyn o bryd, yn rhoi setliad datganoli newydd i Gymru.

Mae hyn yn cynnwys pwerau ychwanegol i hyrwyddo cydraddoldeb a bydd yn cynnig cyfle i Lywodraeth Cymru i weithredu cwotâu rhyw ar gyfer byrddau cyhoeddus, os byddant yn dewis ei ddefnyddio.

Mae cwotâu’n bwnc dadleuol yn aml, gyda llawer yn dadlau y dylai swyddi gael eu llenwi “ar sail teilyngdod” neu “gael eu rhoi i’r person gorau ar gyfer y swydd”.

Ond y gwir amdani yw, nad ydym yn byw mewn meritocratiaeth yng ngwir ystyr y gair ar hyn o bryd, ac oherwydd nifer o faterion amrywiol, mae dynion yn parhau i fod yn llawer mwy tebygol o gael eu penodi i swyddi arwain.

Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos bod cwotâu yn llwyddiannus.

Yn sgil cyflwyno cwotâu yn Norwy yn 2003 gwelwyd y gyfran o fenywod ar fyrddau corfforaethol yn neidio o 15% i 40% ac yn Lesotho mae cwotâu wedi sicrhau cynrychiolaeth o 56% o fenywod ar gynghorau o’i gymharu â 23% ar y lefel genedlaethol, lle na fu unrhyw weithredu cadarnhaol.

Nid yr ateb perffaith.

Mae cwotâu’n rhoi’r sbardun deddfwriaethol sydd ei angen i flaenoriaethu camau gweithredu a sicrhau canlyniadau’n llawer cynt.

Nid oes neb yn awgrymu y bydd gweithredu’r cwotâu rhyw ar gyfer byrddau cyhoeddus yn datrys pob problem.

Dylid eu defnyddio fel mesur dros dro, ynghyd â mentrau eraill i ddatblygu’r cyflenwad doniau, mynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau strwythurol mae ein prosesau recriwtio presennol yn eu creu a herio rhwystrau diwylliannol gan gynnwys syniadau am addasrwydd menywod i arwain.

Yng Nghymru, mae gennym awydd gwleidyddol cryf i fynd i’r afael â’r mater hwn, ond hyd yma araf fu’r newid.

Ein barn ni yw y dylai’r Rhaglen Lywodraethu newydd gynnwys ymrwymiad i weithredu cwotâu rhyw ar gyfer byrddau cyhoeddus ac i ddatblygu cynllun gweithredu sy’n ceisio ymdrin â’r rhwystrau strwythurol sy’n atal menywod rhag cymryd rhan gyfartal yn y broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru.

Cysylltiedig.

Papurau Polisi: Merched yn gwneud penderfyniadau.

O Dan Sylw: Potensial Menywod yn Mentro.