Dathlu Diwrnod Ewrop 2015. Amy Kordiak yn pwyso a mesur sut mae ei chariad at ieithoedd wedi agor drysau yn ei gyrfa.

Fel merch ifanc, roeddwn i’n gwirioni ar bopeth tramor. Roedd fy nain yn ffoadur Pwylaidd a ddaeth i Gymru yn ystod y rhyfel ac rwy’n siŵr mai hi ysgogodd fy angerdd a’m diddordeb yn y byd mawr ehangach.

Byddai’n canu caneuon gwerin Pwyleg wrth goginio prydau blasus ac roedd darnau o’i bywyd yng Ngwlad Pwyl ym mhob cornel o’i fflat: eryrod Pwylaidd, baneri Pwylaidd a lluniau o’r Pab Pwylaidd ar y pryd!

Roedd hi’n amlieithydd hefyd ( siarad sawl iaith ) ac wedi gorfod eu dysgu i ymdopi wrth deithio.

Yn yr ysgol uwchradd, doedd gen i ddim diddordeb mewn fawr o ddim heblaw am ieithoedd. Roeddwn i’n gweld y peth fel adeiladu tŷ, h.y. ar ôl gosod y sylfeini (gramadeg) gellid dod o hyd i frics lliwgar a chyffrous ( geiriau ) i’w defnyddio i fod mor greadigol ag y dymunwn.

Byddwn i’n treulio oriau yn dysgu geiriau ar fy nghof, yn ceisio cyfieithu geiriau caneuon a dod o hyd i ffrindiau tramor newydd. Roedd fy ffrindiau’n meddwl fy mod i’n hurt gan eu bod yn credu bod ieithoedd yn ofnadwy o ddiflas.

Yn ystod fy ngyrfa, mae gallu siarad Ffrangeg ac Almaeneg wedi fy ngalluogi i allu dechrau sawl sgwrs.

Roeddwn i’n pendroni’n aml ar ôl graddio pa lwybr y byddai fy ngyrfa yn ei ddilyn – doeddwn i ddim am ddysgu na chyfieithu – ond sylweddolais yn gyflym y gallwn i ychwanegu sawl pluen at fy het, ac y gallai ieithoedd aros yn agos at fy nghalon a bod yn dipyn o fantais.

Rydw i wedi bod yn ddigon lwcus i lwyddo i allu defnyddio fy ngradd yn y rhan fwyaf o’m swyddi. Hyd yn oed fel gweithiwr ieuenctid, yn sgil fy sgiliau iaith, roedd pobl yn gofyn i mi arwain prosiectau cyfnewid ieuenctid a dysgu Ffrangeg i’r bobl ifanc a oedd dan fy adain.

Hwb i’ch CV drwy ddysgu iaith!

Mae llawer o gyflogwyr yng Nghymru yn gweithio ledled Ewrop ac yn gofyn am iaith dramor fel sgil ddymunol ochr yn ochr â’r gallu i siarad Cymraeg.

Mae buddsoddiadau Ewropeaidd yng Nghymru wedi cynyddu’r angen hwn, ond mae llai a llai o fyfyrwyr yn astudio ieithoedd bob blwyddyn.

Mae angen cau’r bwlch enfawr hwn ac mae’n hanfodol wrth integreiddio yn Ewrop. Hefyd, rwy’n gwybod o brofiad bod cyflogwyr yn talu mwy os ydych chi’n cynnig iaith arall gan fod ganddyn nhw lai o ymgeiswyr i ddewis o’u plith.

Felly, rhowch fantais i’ch hun yn y farchnad swyddi Ewropeaidd a hwb i’ch CV drwy ddysgu iaith.

Mae digonedd o adnoddau ar-lein ar gael i ddechreuwyr a all eich helpu i benderfynu pa iaith i’w dysgu ac mae llawer o bobl allan yn y byd mawr yn ysu am gael cadw eu sgiliau iaith yn fyw!