Etholiad Cyffredinol 2015

Mae menywod yn fwy tebygol o weithio am lai na’r cyflog byw ac mae mwy o fenywod na dynion yn gweithio mewn sectorau cyflog isel.


Felly beth yw cynlluniau’r pleidiau gwleidyddol . . .?

Ar gyfer gwella bywydau menywod a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhywiol? Beth yw eu cynlluniau ar gyfer cyflogau, treth, lles a llawer o feysydd eraill sy’n berthnasol i fenywod yng Nghymru?

A “lens rhyw”

I ateb y cwestiynau pwysig hyn rydym wedi edrych ar faniffestos y 6 phrif blaid wleidyddol y gall pobl bleidleisio iddynt yng Nghymru — Llafur — y Democratiaid Rhyddfrydol — y Ceidwadwyr — Plaid Cymru — y Blaid Werdd — UKIP, a gwneud hynny o safbwynt menywod.
Isod, rydym yn nodi’r gwahanol addewidion mewn rhai meysydd polisi allweddol a allai effeithio ar fenywod yng Nghymru. Rydym wedi canolbwyntio ar feysydd heb eu datganoli h.y. meysydd nad oes gan Lywodraeth Cymru reolaeth drostynt neu dim ond rheolaeth rannol drostynt.

Cyflogau

  • Mae menywod yn fwy tebygol o weithio am lai na’r cyflog byw ac mae mwy o fenywod na dynion yn gweithio mewn sectorau cyflog isel.
  • Mae’r Blaid Lafur yn addo Isafswm Cyflog Cenedlaethol o dros £8 yr awr erbyn mis Hydref 2019; defnyddio caffael fel ffordd o annog cyflogwyr i dalu Cyflog Byw a rhoi pwerau newydd i’r Comisiwn Cyflogau Isel i sefydlu tasgluoedd i godi cynhyrchiant a chyflogau mewn sectorau cyflog isel.
  • Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn addo y byddant yn gofyn i’r Comisiwn Cyflogau Isel edrych ar ffyrdd o godi’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol heb gael effaith andwyol ar gyfleoedd cyflogaeth.
  • Mae Plaid Cymru yn addo Cyflog Byw erbyn 2020 a chynllun “cyflog teg” a fyddai’n atal cyflogau uwch swyddogion rhag codi tra nad yw gweithwyr eraill ar gyflogau is yn cael unrhyw gynnydd o gwbl.
  • Mae’r Blaid Werdd yn addo Isafswm Cyflog Cenedlaethol o £10 yr awr erbyn 2020 ac yn addo atal sefydliadau rhag bod â sefyllfa lle mae’r rhai ar y cyflogau uchaf yn ennill mwy na 10 gwaith y rhai ar y cyflogau isaf.

Trethi

  • Mae’r trothwy talu treth incwm wedi codi dros y 5 mlynedd diwethaf sydd wedi golygu bod gweithwyr ar gyflogau isel yn mynd â mwy o’u cyflog adref gyda nhw.
  • Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr yn addo codi lwfans personol i o leiaf £12,500 gydag UKIP yn addo ei godi i £13,000 erbyn 2020.
  • Mae maniffesto Plaid Cymru hefyd yn cynnwys addewid ynglŷn â threthi, sef y byddent yn codi’r trothwy personol ar gyfer talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gyda’r nod o gael yr un trothwy ar gyfer talu treth incwm.

Cyflogaeth

  • Mae menywod yn fwy tebygol na dynion o fod mewn gwaith rhan-amser gyda chyflog isel ac ar gontract dim oriau ac mae gwahaniaethu yn dal i fod yn broblem i fenywod ym maes recriwtio ac o ran mamolaeth.
  • Bydd Llafur yn gwahardd contractau dim oriau sy’n ecsbloetio gweithwyr ac yn rhoi hawl i bobl sy’n gweithio oriau rheolaidd am dros 12 wythnos gael contract rheolaidd; byddent yn cryfhau’r gyfraith yn erbyn gwahaniaethu ar sail mamolaeth ac yn cael gwared ar y system ffioedd tribiwnlys a gyflwynwyd gan y llywodraeth ddiwethaf.
  • Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn helpu pawb ar gyflogau isel i ddringo’r ysgol yrfa a chynyddu eu horiau gyda chyngor ar chwilio am swyddi a chyngor ar yrfaoedd wedi’i deilwra yn y gwaith; byddent yn adolygu ffioedd tribiwnlys i sicrhau nad ydynt yn rhwystr; yn creu hawl ffurfiol i ofyn am gontract penodol a hawl i sicrhau bod patrymau rheolaidd o waith yn troi’n gontract ar ôl cyfnod penodol o amser; byddent yn symud i ddull recriwtio “dim enw” lle bo’n bosibl yn y sector cyhoeddus a’u nod yw cael dros 1 miliwn yn rhagor o fenywod mewn gwaith erbyn 2020.
  • Bydd Plaid Cymru yn gwahardd contractau dim oriau sy’n ecsbloetio gweithwyr; yn adolygu lefelau ffioedd tribiwnlys cyflogaeth cyfredol; yn ceisio codi statws gwaith sy’n cael ei wneud gan fenywod fel arfer ac yn ceisio cael menywod i ddilyn gyrfa ym maes STEM a gyrfaoedd eraill lle nad oes gan fenywod gynrychiolaeth ddigonol gan ddarparu mentoriaid a rhwydweithiau cymorth.
  • Bydd UKIP yn gweithredu ar gontractau dim oriau drwy ei gwneud hi’n ofynnol i gwmnïau sy’n cyflogi dros 50 o weithwyr roi contractau llawn amser neu ran-amser i weithwyr sydd ar gontractau dim oriau, gwahardd cymalau atal, sicrhau bod gweithwyr ar gontractau dim oriau yn cael o leiaf 12 awr o rybudd ac yn cael eu talu am y shifft er nad oes eu hangen wedi hynny.
  • Bydd y Blaid Werdd yn cyflwyno CVs dienw; yn gorfodi cosbau yn erbyn cyflogwyr sy’n parhau i dalu cyflog anghyfartal; yn gwahardd contractau dim oriau sy’n ecsbloetio gweithwyr; yn sicrhau bod deddfwriaeth gwahaniaethu ar sail mamolaeth a beichiogrwydd yn cael ei gorfodi ac yn gostwng ffioedd tribiwnlys cyflogaeth.

Gofal ac absenoldeb rhiant

  • Mae gofal yn parhau i fod yn fater allweddol i fenywod. Menywod yw’r prif gynhalwyr yn y rhan fwyaf o gartrefi o hyd ac maent yn fwy tebygol o fod yn gynhalwyr di-dâl/
  • Yn ystod y 5 mlynedd diwethaf cyflwynwyd Absenoldeb Rhiant a Rennir, sy’n galluogi rhieni i rannu 50 wythnos o absenoldeb rhiant rhyngddynt. Mae cost gofal plant yn y DU yn parhau i godi ac mae gyda’r drutaf yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ( OECD ).
  • Bydd Llafur yn dyblu hyd absenoldeb tadolaeth; yn dyblu darpariaeth gofal plant am ddim ac yn ymgynghori ar alluogi neiniau a theidiau i rannu absenoldeb rhiant di-dâl rhieni.
  • Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ymestyn absenoldeb rhiant a rennir gan ddarparu mis “defnyddio neu golli” i dadau; yn cyflwyno hawl i absenoldeb â thâl i gynhalwyr; yn cwblhau’r gwaith o gyflwyno Gofal Plant Di-dreth; yn codi’r swm y gallwch ei ennill cyn colli Lwfans Gofalwr i £150 yr wythnos ac yn ymgynghori ar 5 diwrnod o absenoldeb ychwanegol â thâl i gynhalwyr.
  • Nod Plaid Cymru yw darparu gofal plant hyblyg a fforddiadwy gan edrych ar ddefnyddio mentrau cydweithredol a chymdeithasol.
  • Bydd UKIP yn cynnal adolygiad llawn o ddarpariaeth gofal plant; yn caniatáu’r rhai sy’n derbyn talebau gofal plant/gofal plant di-dreth i roi eu plant yng ngofal cynhalwyr nad ydynt wedi’u cofrestru gydag Ofsted a byddent yn cynyddu Lwfans Gofalwr i £73.10 yr wythnos i gyfateb i Lwfans Ceiswyr Gwaith.
  • Mae’r Blaid Werdd yn bwriadu cyflwyno addysg gynnar a gofal plant am ddim.

Cyni a diwygio lles

  • Mae’r toriadau i wariant cyhoeddus a’r newidiadau i’r system les dros y 5 mlynedd diwethaf wedi effeithio’n anghymesur ar fenywod gyda rhai yn amcangyfrif bod 74% o’r arbedion yn sgil diwygio’r system les wedi dod yn syth o bocedi menywod.
  • Mae unig rieni wedi cael eu heffeithio’n arw, a menywod yw 90% o’r rhain. Mynegwyd pryder hefyd am y Credyd Cynhwysol gan nad yw’n cynnig fawr o gymhelliant i ail enillydd y cartref, sef menyw fel arfer, i chwilio am swydd neu i gynyddu ei horiau.
  • Mae’r Ceidwadwyr wedi dweud y byddent yn torri £12 biliwn pellach o’r gyllideb les er nad ydynt wedi cyhoeddi sut eto; maent yn parhau i fod yn ymrwymedig i gyflwyno’r Credyd Cynhwysol; byddent yn gostwng y terfyn uchaf ar fudd-daliadau i £23,000 y flwyddyn ac yn rhewi budd-daliadau oedran gweithio am 2 flynedd o fis Ebrill 2016.
  • Bydd Llafur yn dileu’r Dreth Ystafell Wely; yn rhoi terfyn uchaf ar fudd-dal plant am 2 flynedd; yn cynnal y terfyn uchaf ar fudd-daliadau ac yn ystyried a ddylid ei ostwng mewn rhai meysydd; yn oedi ac yn adolygu’r Credyd Cynhwysol ac yn ymestyn faint o amser y bydd yn rhaid i bobl weithio er mwyn bod yn gymwys am Lwfans Ceiswyr Gwaith.
  • Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cyflwyno’r Credyd Cynhwysol ac yn ei adolygu i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau o ran achosion ‘ymyl y dibyn’ ac yn sicrhau bod mwy o oriau gwaith yn cael eu cyflwyno fel cymhelliant priodol i bawb sy’n hawlio’r Credyd; byddent yn cynnal y terfyn uchaf ar fudd-daliadau; yn datganoli Cymorth Rhaglen Waith i Gymru ac yn adolygu cosbau.
  • Mae Plaid Cymru yn addo dull mwy personol o ddarparu cymorth cyflogaeth a symud i ffwrdd oddi wrth gosbau; byddent yn dileu’r Dreth Ystafell Wely; yn cynnal adolygiad annibynnol o gosbau budd-daliadau; yn ceisio darparu cymorth ychwanegol i fenywod ifanc gael swyddi ac yn mynnu bod rhaid cynnal asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw doriadau pellach er mwyn atal unrhyw anfantais anghymesur i unrhyw grŵp penodol.
  • Mae UKIP wedi datgan eu cefnogaeth i ostwng y terfyn uchaf ar fudd-daliadau ac yn addo cael gwared ar y Dreth Ystafell Wely.
  • Mae’r Blaid Werdd wedi addo dileu gweithles ( workfare ) a chosbau; dyblu budd-dal plant; dileu’r Dreth Ystafell Wely ac atal gweithredu’r Credyd Cynhwysol i gynnal adolygiad o’i strwythur a’i weithrediad. Byddent yn ymgynghori ar eu polisi “incwm dinasyddion” hefyd
  • Dyma gipolwg o bolisïau’r 6 phrif blaid wleidyddol felly. Mae eu maniffestos llawn yn cyflwyno darlun ehangach o’u gweledigaeth ar gyfer y wlad.
  • Byddem yn annog pawb i ddarllen y maniffestos, i holi cwestiynau i’ch ymgeiswyr am y materion sy’n bwysig i chi ac yn anad dim, i fynd allan i bleidleisio a dweud eich dweud ar 7 Mai.