Mae penderfyniadau a wneir gan Lywodraethau yn aml yn effeithio ar ddynion a menywod yn wahanol.

… Dyma’r trydydd yn ein cyfres o erthyglau ‘O Dan Sylw’ sy’n edrych ar y meysydd polisi sydd â gwahaniaethau ar sail rhyw sensitif – meysydd y teimlwn ddylai gael eu blaenoriaethu gan y Rhaglen Lywodraethu newydd.

Ar draws y DU, mae menywod yn hanner mor debygol â dynion i sefydlu eu busnesau eu hunain.

Menywod yw 47% o’r gweithlu yng Nghymru ond dim ond 10% o fenywod sy’n gweithio sy’n hunangyflogedig.

Dim ond 31% o’r boblogaeth hunangyflogedig sy’n fenywod, sy’n dangos bwlch sylweddol rhwng y rhywiau o ran hunangyflogaeth.

Amcangyfrifodd adroddiad diweddar gan y Ffederasiwn Busnesau Bach y gallai’r DU fod yn colli dros filiwn o fentrau newydd posib oherwydd potensial busnes menywod sydd heb ei wireddu.

Dydy’r sefyllfa ddim yn unigryw i’r DU, heb sôn am Gymru.

Yr un yw’r sefyllfa ar draws Ewrop a’r byd, ble mae annog menywod i fentro yn cael ei ystyried yn bwysig ar gyfer twf economaidd yn y dyfodol ac i greu swyddi.

Ond nid economïau’r byd yn unig all elwa o bosibiliadau hunangyflogaeth ac entrepreneuriaeth.

Ar gyfer unigolion, gall bod yn fos arnoch chi’ch hun apelio am amryw o resymau gwahanol, gan gynnwys annibyniaeth ariannol, ymreolaeth a hyblygrwydd.

Felly pam nad yw mwy o fenywod yn dewis dod yn fosys arnyn nhw’u hunain?

Mae cymhellion menywod i ddechrau eu busnesau eu hunain hefyd yn wahanol i rai dynion, felly hefyd eu profiad o’r broses, sy’n golygu eu bod yn wynebu nifer o rwystrau.

Mae menyw yn debygol o edrych ar ei busnes fel menter gymdeithasol, gan ganolbwyntio ar gymuned a ffordd o fyw dros dwf ac elw. Felly, gall cymorth busnes sy’n canolbwyntio ar dwf uchel fod yn rhwystr i fenywod.

Mae cyfle, hyder a hygrededd hefyd yn chwarae rhan. Mae nifer o fenywod yn sylweddoli eu bod yn cael eu trin yn wahanol i ddynion yn yr un sefyllfa ac yn gorfod gweithio’n galetach er mwyn sicrhau bod eu busnesau’n llwyddo.

Yn olaf, mae mynediad at gyllid hefyd yn parhau’n drafferth, gyda menywod yn tueddu i fod yn fwy gofalus wrth fenthyca. Mae hyn yn ei dro yn effeithio ar allu busnesau i dyfu.

Mae cynyddu nifer yr entrepreneuriaid benywaidd yn parhau’n her fawr sydd angen gwaith parhaol a chynhwysfawr.

Mae gan lywodraethau gyfrifoldeb i sicrhau bod y cymorth busnes sydd ar gael ar gyfer pawb, a’u bod yn rhoi cyfle cyfartal i bawb adeiladu busnes llwyddiannus a chynaliadwy.

Dylai’r cymorth sydd ar gael ddangos dealltwriaeth o agweddau gwahanol dynion a menywod tuag at ddechrau busnes, ynghyd â gwahaniaethau yn y ffordd maen nhw’n gweithio, eu nodau a’u hamcanion.

Dylai llwyddiant hefyd gael ei fesur yn unol â hynny.

Mae rhwydweithiau, esiamplau da a chynlluniau mentora hefyd yn arfau gwych i helpu menywod i fagu hyder, i gael eu hysbrydoli a chael mynediad at wybodaeth angenrheidiol a fydd yn sicrhau bod eu mentrau’n ffynnu.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cydnabod pwysigrwydd mynd i’r afael â’r bwlch rhwng y rhywiau o ran cychwyn busnes ac i gael gwell dealltwriaeth o’r rhesymau sydd wrth wraidd hyn.

Rydym yn falch ein bod yn gweithio gyda nhw i asesu’r cymorth presennol a sicrhau bod gwasanaethau yn sensitif i’r gwahaniaethau rhwng y rhywiau.

Byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod y gwaith hwn yn parhau ac yn datblygu yn ystod y Pumed Cynulliad, gan greu amgylchedd busnes yng Nghymru lle mae menywod a dynion yn cyflawni ac yn ffynnu.

Yn y cyfamser, dyma’r cyntaf o’n modelau rôl menter i’ch ysbrydoli: Entrepreneur, Bragwr Brwd.

Cysylltiedig.

O Dan Sylw: Teithiau Menywod sy’n Gweithio.

Sarah John, bragwr ac entrepreneur o Abertawe: Troi diddoreb brwd yn fusnes.

Adroddiad Ffederasiwn Busnesau Bach – Women in Enterprise: The Untapped Potential.