Bwrw iddi Gyda Gwyddoniaeth

Amcan y prosiect GOWS yw gwella’r modd y cyflwynir gwyddoniaeth mewn ysgolion yng Nghymru ac annog mwy o ddisgyblion, yn enwedig merched, i ddilyn pynciau gwyddonol ac yn y pen draw, i ystyried gyrfaoedd yn y diwydiannau STEM ( gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ).


Ffotograff. Tu mewn. Plant ysgol yn chwarae gyda setiau cemeg.

Gwyddoniaeth mewn ysgolion yng Nghymru

Ariannu gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru. Cafodd ei lansio ym mis Ionawr 2012 gan Chwarae Teg a ContinYou Cymru.

Amcan y prosiect GOWS yw gwella’r modd y cyflwynir gwyddoniaeth mewn ysgolion yng Nghymru ac annog mwy o ddisgyblion, yn enwedig merched, i ddilyn pynciau gwyddonol ac yn y pen draw, i ystyried gyrfaoedd yn y diwydiannau STEM ( gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ).

Bydd y prosiect hefyd yn annog teuluoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwyddonol, fel teithiau dydd i ganolfannau fel Techniquest a Techniquest Glyndŵr, er mwyn rhoi cefnogaeth gyfannol i’r disgyblion.

 

Pwysigrwydd y prosiect.

Mae gwella’r modd y cyflwynir pynciau STEM yn allweddol i dwf economaidd ac yn tanategu nifer o’r sectorau sy’n cael blaenoriaeth yn Strategaeth Adnewyddu Economaidd Llywodraeth Cymru.

Mae’r rhagolygon gwaith yn nodi y bydd angen mwy a mwy o bobl sydd wedi cymhwyso mewn pynciau STEM yn y dyfodol agos.

Gallai’r prosiect GOWS, felly, wneud cyfraniad sylweddol at dwf economaidd Cymru a helpu i greu cenedlaethau newydd o Fenywod mewn gwyddoniaeth yng Nghymru.

 

Pam y dylai disgyblion – yn enwedig merched – ‘fwrw iddi gyda gwyddoniaeth’?

Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru’n parhau i fod yn fawr sef £2,441 ( CMI, 2011 ) a’r rheswm yn aml yw nad oes digon o ddefnydd o sgiliau menywod.

Mae arolwg blynyddol Cyrchfannau Disgyblion Gyrfa Cymru yn dangos bod yna duedd i bobl ifanc ddilyn llwybrau gyrfa traddodiadol, sy’n arwain at fenywod yn cymryd swyddi sy’n talu llai.

Mae swyddi a wneir gan ddynion yn draddodiadol – gan gynnwys nifer o’r sectorau STEM – yn tueddu i ddenu cyflogau llawer uwch.

Pe bai mwy o ferched yn dilyn gyrfaoedd ym maes gwyddoniaeth a pheirianneg, dylai’r bwlch cyflog leihau yn y pen draw.

Yn ddiweddar ( 2 Awst 2013 ) mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru – yr Athro John Harries – a fydd yn cydgysylltu mentrau STEM ac yn helpu i leihau’r rhwystrau yng Nghymru.

Er bod yna nifer o fentrau i hybu pobl i astudio pynciau STEM yng Nghyfnod Allweddol 3 a thu hwnt, ychydig iawn ohonynt sydd ar gyfer plant ysgol gynradd.

 

Rhaid ymyrryd yn gynnar.

Yn ôl gwaith ymchwil, rhaid ymyrryd yn gynnar i godi dyheadau a disgwyliadau merched ac i ehangu cwmpas y cyfleoedd y gallan nhw eu hystyried yn ddiweddarach yn eu bywydau.

Efallai y gellir datblygu a chynnal brwdfrydedd am wyddoniaeth ymhlith plant ysgol trwy gynnwys teuluoedd a’r gymuned leol.

Yn ogystal â hyn, bydd dysgu am rôl-fodelau, gan gynnwys Hyrwyddwyr Gwyddoniaeth y prosiect, yn codi dyheadau’r merched sy’n cymryd rhan.

Gysylltiedig, erthygl Newyddion Chwarae Teg:

Menywod mewn gwyddoniaeth yng Nghymru: Nodedig o ddoe a heddiw.