Cyhoeddi ail dderbynnydd plac porffor yn Redhouse Merthyr

Yn hen neuadd y dref neu’r Redhouse heddiw (dydd Llun 5 Tachwedd 2018), cyhoeddwyd y bydd yr hanesydd a’r ysgolhaig ffeministaidd o Ferthyr, Ursula Masson, yn cael ei choffáu drwy godi plac porffor yn y dref.
Mewn digwyddiad yn hen neuadd y dref – y Redhouse ym Merthyr, cafwyd cyhoeddiad swyddogol gan Jane Hutt AC a Julie Morgan AC o bwyllgor llywio’r placiau porffor mai’r person nesaf i’w choffáu gyda phlac yw sefydlydd yr Adran Astudiaethau Rhywedd yn yr hyn a elwir yn Brifysgol De Cymru bellach ac Archif Menywod Cymru– Ursula Masson. Cyfarfu’r pwyllgor llywio â Ceinwen Statter, un o’r bobl a enwebodd Ursula Masson.

Cafodd yr ymgyrch Placiau Porffor ei lansio ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2018, gan grŵp o wirfoddolwyr i goffáu’r diweddar Val Feld a fu’n Aelod Cynulliad. Nod yr ymgyrch, sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth â’r elusen cydraddoldeb rhywiol Chwarae Teg, yw gwella’r gydnabyddiaeth a roddir i fenywod nodedig yng Nghymru a gosod plac porffor i goffáu eu cyflawniadau a chadarnhau eu lle yn hanes Cymru.

Roedd Ursula O’Connor yn hanu o gymuned Wyddelig Merthyr Tudful. Mynychodd Ysgol Ramadeg Castell Cyfarthfa a Phrifysgol Caerdydd. Bu’n gweithio fel newyddiadurwraig ar y Sydney Morning Herald rhwng 1969 a 1972. Astudiodd am Radd Meistr ym Mhrifysgol Keele, wedi’i hariannu gan fwrsari a dderbyniodd gan Margaret Stewart Taylor, y fenyw gyntaf i fod yn brif lyfrgellydd Merthyr. Ysgrifennodd ei thraethawd hir ar y mewnfudo o Iwerddon i Ferthyr. Ar ôl gweithio ym maes addysg i oedolion yn Abertawe symudodd i Drefforest. Yno, roedd ganddi ddiddordeb arbennig mewn hanes menywod a ffeministiaeth.

Ar ôl cyhoeddi derbynnydd y plac porffor nesaf, meddai cadeirydd y pwyllgor llywio, Jane Hutt AC:

“Ar ôl dadorchuddio’r Plac Porffor cyntaf er cof am Val Feld yn y Senedd derbyniwyd llawer o enwebiadau haeddiannol iawn i fenywod ledled Cymru ar gyfer placiau’r dyfodol.

“Roeddem yn rhyfeddu at yr effaith anhygoel a gafodd Ursula Masson ar sicrhau presenoldeb i fenywod mewn gweithiau a chofnodion hanesyddol a gwleidyddol. Roedd Ursula’n hanesydd ffeministaidd a’i phrif ddiddordeb oedd hanes gwleidyddol menywod yng Nghymru. Gan ei bod hi wedi ysgrifennu’n helaeth am fudiad y bleidlais i fenywod yng Nghymru, mae’n addas ein bod ni’n gwneud y cyhoeddiad hwn ym mlwyddyn dathlu canmlwyddiant rhoi’r bleidlais i fenywod.

“Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r gymuned i ddadorchuddio’r Plac Porffor a roddir yn Merthyr Tydfil i goffáu Ursula a’i gwaith pwysig.”

Meddai Ceinwen Statter a enwebodd Ursula Masson am Blac Porffor:

“Rwy’n falch tu hwnt bod Ursula Masson yn mynd i gael ei choffáu gyda phlac porffor gan fod angen adrodd ei hanes dro ar ôl tro, mae’n dangos i ferched ifanc Merthyr fod unrhyw beth yn bosib! Fe wnes i enwebu Ursula am ddau reswm – un proffesiynol ac un personol.

“Ar lefel broffesiynol, sicrhaodd ganlyniadau eithriadol wrth hyrwyddo rôl menywod yng Nghymru, ddoe a heddiw. Roedd ei gwaith gyda Llafur – sefydliad hanes dosbarth gweithiol Cymru, gydag Archif Menywod Cymru a sefydlu’r Ganolfan Astudiaethau Rhywedd yn hen Brifysgol Morgannwg yn gyflawniadau eithriadol. Mae’r rhain yn haeddu cydnabyddiaeth ddeng mlynedd ar ôl i Ursula farw.

“Ar lefel bersonol, roedd mam Ursula a fy mam yn Ysgol Ramadeg Mynwent y Crynwyr gyda’i gilydd. Roedd Sephora Davies yn athrawes arnynt, menyw arall a wnaeth gyfraniad anhygoel ym Merthyr.

“Er bod gwaith Ursula’n cael rhywfaint o gydnabyddiaeth yn Hen Neuadd y Dref Merthyr, y Redhouse, nid oes llawer yn gwybod amdano. Rwy’n falch bod y Plac Porffor yn cael ei osod i wneud mwy o bobl yn ymwybodol o’i stori anhygoel.”