Hailey Townsend ydw i, Cynghorydd Ward Bracla yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac Is-gadeirydd Cyngor Cymuned Bracla.

Dw i’n fam sengl i ddau o blant, sef Leya, 9, a Jamie, 4. Dw i hefyd yn gweithio’n llawn amser fel Llywydd Sabathol Undeb y Myfyrwyr cyntaf erioed Coleg Pen-y-bont.

Dw i’n aelod gweithgar iawn o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr; yn aelod o’r Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc, y Pwyllgor Craffu Iechyd a Lles, Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet, Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet, y Fforwm Tref a Chymuned a nifer o baneli ymchwil a gwerthuso eraill.

Ar ôl i’m swydd gael ei dileu pan oeddwn i’n feichiog gyda ‘mhlentyn ifancaf, doedd dim hyder gen i yn fy hun o gwbl.

Genesis, prosiect a ariennir gan Ewrop a oedd yn helpu rhieni unigol a oedd yn hawlio’r lwfans ceisio gwaith, lwyddodd i gael fi nôl ar fy nhraed.

Ces fynd ar sawl cwrs dan ofal tîm Genesis, ac roedd fy mab yn gallu chwarae gyda’r plant eraill yn y crèche. Felly, yn ogystal â rhoi hwb i fy hunanhyder i, roedd y cwrs yn gyfle i Jamie chwarae gyda phlant eraill o’r un oed a datblygu ei sgiliau cymdeithasol a’i annibyniaeth yntau.

Bryd hynny, roedd fy mryd ar yrfa nyrsio, a llwyddais i ddychwelyd i fyd addysg gan fod y prosiect Genesis yn talu costau gofal plant fy mab. Dechreuais fy nghwrs ym mis Medi 2010.

Doedd hi ddim yn hawdd bod yr hyna’ yn y dosbarth, yn enwedig gan nad oeddwn i wedi gwneud unrhyw ddysgu ers 10 mlynedd. Cefais fy ethol yn Gynrychiolydd Academaidd y Myfyrwyr gan fy nosbarth, felly fi oedd yn gyfrifol am hysbysu’r coleg am unrhyw broblemau oedd gan y myfyrwyr. Yn fuan iawn roeddwn yn aelod o Gyngor Myfyrwyr y Coleg yn cynrychioli’r ysgol Gofal, Plentyndod ac Addysg.

Ond aeth fy angerdd dros roi llais i fyfyrwyr â fi ymhellach na hynny. Dechreuais ymroi i weithio gydag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a synnais i glywed am yr undebau myfyrwyr oedd yn bodoli mewn sefydliadau eraill.

Roeddwn yn awyddus i Goleg Pen-y-bont allu cynnig yr un peth i’w fyfyrwyr. Gweithiais yn agos gyda’r Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a mynd ati i sefydlu’r undeb gyda chymorth y coleg.

Fe wnes i sefyll mewn etholiad yng Nghynadledd Cymru yr NUS a chefais fy ethol i’r Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol.

Roedd hyn yn gyfle i mi roi llais i fyfyrwyr nid yn unig yn lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ond i bob myfyriwr Addysg Bellach yng Nghymru hefyd. Yna fe wnes i sefyll mewn etholiad yn y DU i gynrychioli myfyrwyr AB ar Bwyllgor Addysg Bellach y DU yr NUS.

Ochr yn ochr â ‘mywyd coleg, roeddwn wedi dechrau ymgyrchu i gael parc i blant yn fy ardal ar ôl cael sawl llythyr gan ein cymdeithas tai yn cwyno bod plant yn chwarae ar y stryd.

Trwy fy ngwaith gydag undeb y myfyrwyr, roeddwn i wedi dysgu’r sgiliau i allu cynnal ymgyrch lwyddiannus, a dyna sut i mi ddod i gysylltiad â’r cynghorwyr lleol.

Ymunais â phlaid wleidyddol a sefyll fel un o ymgeiswyr y blaid ar gyfer yr etholiadau lleol oedd ar y gorwel. Bûm yn llwyddiannus a dechreuais ymgyrchu i gael fy ethol yn fy nghymuned leol, Bracla.

Fe wnes i barhau i astudio a gweithio gydag undeb y myfyrwyr. Roedd bod yn rhan o wleidyddiaeth a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill drwy roi llais iddyn nhw yn gyffrous iawn.

3 Mai 2012 oedd un o ddiwrnodau gorau ‘mywyd i, er fy mod i ar bigau’r drain drwy’r dydd. Fe wnes i sefyll mewn 3 etholiad: ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Cymuned Bracla ac fel Swyddog Sabathol ar gyfer Undeb Myfyrwyr Coleg Pen-y-bont. Rywffordd neu’i gilydd, llwyddais i gael fy ethol ymhob un ohonyn nhw!

Fi oedd cynghorydd benywaidd ifancaf erioed Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’r ail Lywydd Sabathol mewn AB yng Nghymru.

Dyw fy rôl mewn llywodraeth leol ddim wedi bod yn fêl i gyd. Cefais lawer o sylw yn y cyfryngau, sylw nad oeddwn ei eisiau, am wneud cwyn yn erbyn cynghorydd gwrywaidd am wahaniaethu ar sail rhyw. Dw i’n glynu at fy mhenderfyniad oherwydd dw i’n credu bod gan fenywod le i gyfrannu at ein democratiaeth a’u bod yn haeddu cael eu trin yn gyfartal fel gwleidyddion sy’n gwneud eu gorau glas dros eu cymuned.

Doeddwn i ddim wedi bwriadu mynd i wleidydda ond dyna sut mae pethau wedi mynd. Cefais gefnogaeth anghygoel gan y blaid roeddwn i’n ei chynrychioli a chan fy nheulu. Mae’n debyg y gallech chi honni nad ydw i’n wleidydd traddodiadol – dw i’n fenyw, dan 30 oed, yn fam sengl ac yn byw mewn tŷ sy’n eiddo i landlord cymdeithasol.

I mi, does yna’r un o’r rhain yn bwysig. Dw i wedi cael amserau da a throeon trwstan a dw i’n gwybod sut beth yw byw yn y byd go iawn. Fy nod yw gwneud fy nghymuned yn lle gwell i fyw, gweithio a chymdeithasu, a dyma sydd wrth wraidd fy ngwaith.

Dw i’n uchelgeisiol, ac er cymaint dw i’n mwynhau llywodraeth leol, fy nod yw dringo’r ysgol wleidyddol; rhyw ddiwrnod, byddaf yn cynrychioli fy nghymuned a’m gwlad yn Llywodraeth Cymru.

Mae gwleidyddiaeth wedi colli cysylltiad â’n cymdeithas ac mae angen i fwy o fenywod sefyll mewn etholiadau, boed ar gyfer eu cyngor cymuned neu fel Aelodau Seneddol.

Os ydych chi’n bwriadu sefyll ar ran eich cymuned, fy nghyngor pennaf fyddai i chi ddechrau gwirfoddoli yn eich cymuned a siarad â phobl. Dewch i adnabod y bobl rydych chi am eu cynrychioli ac os ydych chi’n gweld bod angen cyfleuster o ryw fath, ewch ati i gael cefnogaeth y gymuned a thrafod y mater gyda’ch cynrychiolwyr etholedig.

Mwya’n byd o bethau y gallwch chi ddweud eich bod wedi mynd ati i’w gwneud cyn yr etholiad, mwya’n byd y bydd etholwyr yn ymddiried ynddoch chi.

Dilynwch Hailey ar Twitter: @cariad07.

Mae’r erthygl hon yn ymwneud â’r eitem Newyddion: Mae angen i fwy o fenywod ymrwymo – Wythnos y Senedd 2013.