Bu dadansoddi a thrin a thrafod brwd am y Rhyfel Byd Cyntaf a’i effaith hirhoedlog ar fenywod a’u rôl yng nghymdeithas Prydain, a datblygodd dwy brif ffordd o feddwl am hyn.

Yn ôl un garfan, roedd y rhyfel yn drobwynt i newid cymdeithasol a chafodd effaith ddramatig a buddiol ar fywydau menywod, gan agor drysau i gyfleoedd newydd. ( Noakes, 2007 ) Mae’r garfan arall yn fwy gofalus, ac yn dadlau mai effaith dros dro a chyfyngedig a gafwyd ar fenywod ac ar rolau’r ddau ryw, gyda’r ymateb chwyrn yn erbyn menywod yn y blynyddoedd wedi’r rhyfel yn taflu cysgod dros y cyfan.

Yn ddi-os, gwelwyd lle’r fenyw mewn cymdeithas yn datblygu er gwell mewn rhai ffyrdd. Ym 1918 o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl, rhoddwyd y bleidlais i fenywod dros 30, ac ym 1919 gwnaeth y Ddeddf Gwaharddiadau hi’n anghyfreithlon i rwystro menywod rhag gwneud swyddi ar sail eu rhyw.

Roedd y rhyfel wedi caniatáu i fenywod brofi eu bod yn abl yn y gweithle, yn enwedig ym maes cynhyrchu bwyd, ac roedd llawer o ffermwyr am barhau i gyflogi’r menywod hynny. A chododd rhai cyfleoedd gwaith newydd ym maes peirianneg ysgafn, ym myd manwerthu a gwaith swyddfa.

Serch hynny, law yn llaw â’r camau cadarnhaol hyn gwelwyd nifer o gamau negyddol hefyd. Wrth i Brydain geisio ail-afael mewn normalrwydd, roedd ysfa llawer o fenywod i barhau i weithio mewn rolau anhraddodiadol yn atgof cryf o’r rhyfel yr oedd y mwyafrif am ei anghofio.

O ganlyniad, roedd menywod dan y lach am fod eisiau cadw’u swyddi â chyflogau uwch ac yn aml byddent yn cael eu portreadu fel rhai a oedd yn dwyn swyddi’r milwyr a ddychwelodd o’r ffrynt. Ym 1919, gorchmynnodd Deddf Adfer Arferion Cyn-Rhyfel ( the Restoration of Pre-War Practices Act ) fenywod i ildio’u swyddi amser rhyfel i’r dynion a oedd yn dychwelyd o’r rhyfel.

Cafodd hyn effaith amlwg ar nifer y menywod mewn gwaith ac erbyn 1921 21% oedd canran y menywod yn y gweithlu, a oedd yn is nag ym 1911. Erbyn 1931, roedd cyflogau menywod wedi disgyn yn ôl i’w cyfraddau cyn-rhyfel, sef hanner cyflogau’r dynion.

Mae’n amlwg bod y sefyllfa wedi’r rhyfel yn un gymhleth a’i bod wedi gosod menywod mewn sefyllfa unigryw.

Roedd y rhyfel wedi caniatáu iddyn nhw brofi eu bod yn abl i wneud y rhan fwyaf o’r swyddi yr oedd dynion yn draddodiadol yn eu gwneud ac roedd wedi rhoi blas iddyn nhw ar yr annibyniaeth a’r rhyddid ariannol a oedd yn dod gyda swyddi a oedd yn talu cyflogau uwch. Ac eto, yn ddiwylliannol, doedd Prydain ddim yn barod i dderbyn y rôl newydd hon ar gyfer menywod.

Heb os, roedd y rhyfel yn drobwynt yn hanes menywod, ac agorodd y drws i gyfleoedd newydd, gan ganiatáu iddyn nhw herio syniadau traddodiadol am safle dynion a menywod mewn cymdeithas ac yn y gweithle.

Mae mynd i’r afael â’r syniadau hyn yn parhau i fod yn elen allweddol o’r ymdrech i gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Erbyn heddiw, byddem yn ystyried llawer o’r swyddi a oedd yn cael eu gwneud gan fenywod yn ystod cyfnod y rhyfel fel rhai yn y sector STEM ( gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ), sef sector lle mae prinder menywod yn parhau hyd yn oed heddiw.

Wrth nodi canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Mawr, mae’n bwysig ein bod yn cofio cyfraniad menywod at ymdrechion rhyfel Prydain.

Pa ffordd well o wneud hyn na thrwy roi stop unwaith ac am byth ar yr effaith negyddol y mae syniadau traddodiadol am rôl menywod yn ei chael ar eu safle yn y gweithle ac yn y cartref, a sicrhau lle cyfartal i fenywod yn y sectorau, megis STEM, lle maen nhw’n parhau’n amlwg o absennol.

Cyfeiriadau:

Lucy Noakes, 2007 — Demobilising the Military Woman

Gan Natasha Davies. Twitter: @daviesna2.