Mae gen i gydweithwyr gwych – mi ges i ben-blwydd i’w gofio diolch iddyn nhw. Ro’n i’n gwerthfawrogi’n fawr.

Ers y diwrnod mawr, Yn gynharach eleni – mae yna sawl carreg filltir a phrofiadau cofiadwy wedi bod, fel y cyfarfod cyntaf hwnnw lle roeddem yn trafod y boblogaeth sy’n heneiddio pan sylweddolais fy mod i yn y categori hwnnw bellach.

Mae yna lawer o straeon newyddion negyddol yn gysylltiedig â heneiddio, fel trafferth i gael swydd newydd os ydych chi’n fenyw dros eich 50 oed ond i fod yn onest, mae yna lawer o bethau da hefyd rwy’n dechrau dod yn ymwybodol ohonyn nhw yn y cyfnod cynnar hwn o fyw fel person hŷn …

Mae’n debyg mai un o’r problemau sy’n rhaid i mi fod yn ymwybodol ohonyn nhw yw y byddaf yn mynd yn anweledig.

Hynny yw, na fydda i’n gweld pobl fel fi yn cael eu cynrychioli ar y cyfryngau ac ati. I fod yn onest, don i ddim yn meddwl fod hynny’n digwydd cynt.

Rhywbeth arall mae pobl wedi’i ddweud wrtha i yw na fydd dynion yn fy ngweld i mwyach gan na fydda i’n ifanc a deniadol.

Dwi’n meddwl fod hyn yn rhoi darlun annheg o lawer o ddynion ac i’r rhai sy’n credu hynny – wfft i chi, felly, dyna hynna wedi’i ddatrys! Dwi rioed wedi ystyried fy hun yn bishyn beth bynnag.

Faint o oriau dwi wedi’u gwastraffu yn poeni a oeddwn i’n anfon negeseuon dryslyd? Os yw hyn yn golygu nad oes rhaid i mi gymryd y prawf bellach, mae hynny’n iawn gen i.

Hwre ddweda i i’r ffaith nad ydw i’n fod rhywiol nac yn gallu cael plant bellach!

Gallaf barhau i fod yn fi a gwneud y pethau pwysig heb boeni am ddisgwyliadau pobl eraill.

Erthyglau Perthnasol:

Mair Rowlands yn rhannu ei phrofiad o hyder yn y gweithle. Bywyd yn cychwyn ar … 51? Mair Rowlands yn trafod.