Cododd yr Uwchgynhadledd rai o’r un hen gwestiynau: Beth allwn ni ei wneud am y ‘biblinell sy’n gollwng’? A allwn ni sicrhau newid cadarnhaol heb gwotâu?

Cyn cyrraedd yr Uwchgynhadledd Rhywedd (6-7 Tachwedd) yn Berlin yr wythnos diwethaf, mae’n rhaid i mi gyfaddef bod gen i fy amheuon ynglŷn â’r digwyddiad.

Pan edrychais i ar y rhestr o gynrychiolwyr yr wythnos flaenorol, mi welais i ymchwilwyr ac academyddion a sefydliadau tebyg i’r rhai oedd yn bresennol yn yr Uwchgynhadledd Rhywedd gyntaf i mi fynd iddi yn 2011.

Ble roedd y llunwyr polisi a’r bobl sy’n gallu sicrhau newid go iawn yn Ewrop?

Fodd bynnag, wrth i’r digwyddiad nesáu, dechreuodd y cyffro gynyddu ac roedd yr enwau newydd a oedd yn dechrau cael eu cyhoeddi yn cynnig mwy o obaith.

Roeddwn i’n mynd i gyfarfod ag Eira Jepson, ein Partner Polisi a Chyfathrebu, ym maes awyr Tegel ac roeddem ni eisoes wedi ffurfio cynllun.

Roeddem ni’n mynd i ddenu sylw trwy’r cyfryngau cymdeithasol a sicrhau bod pobl yn sylweddoli’r effaith mae ein helusen fach yng Nghymru yn ei chael ar anghydraddoldeb rhywiol mewn cyflogaeth.

We didn’t lose sight of the main reason for attending — to promote the latest women in STEM recommendations for Wales.

Roedd hi hefyd yn bwysig i ni roi sylw i un o’r prif resymau dros ein hymweliad, sef hyrwyddo argymhellion diweddaraf menywod mewn STEM ar gyfer Cymru, yr oedd Hilary Lappin-Scott, yr Uwch Ddirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Ymchwil a Datblygu Strategol ym Mhrifysgol Abertawe, yn eu cyflwyno ac yr oedd Chwarae Teg wedi cyfrannu atynt.

Cododd yr Uwchgynhadledd rai o’r un hen gwestiynau: Beth allwn ni ei wneud am y biblinell sy’n gollwng? A allwn ni sicrhau newid cadarnhaol heb gwotâu?

Sut allwn ni sicrhau bod menywod yn cyfrannu mwy at y broses o wneud penderfyniadau? Roedd yr atebion yn gymharol amlwg i’r rhan fwyaf o bobl yno ac roedd yna lawer o nodio pen ymhlith y menywod yn y gynulleidfa.

Y rhannau cyffrous i mi, fodd bynnag, oedd y sgyrsiau unigol yn ystod y toriadau. Roedd pawb i weld yn cytuno ei bod hi’n hen bryd i ni weithredu a bod rhannu canfyddiadau ymchwil yn beth defnyddiol i’w wneud ond, mewn gwirionedd, yr hyn sy’n bwysig yw nodi mentrau sy’n gweithio a mabwysiadu arfer da ledled Ewrop.

Pan gyflwynwyd canfyddiadau STEM ar yr ail ddiwrnod, roedd Eira a minnau’n siomedig nad oedd y cyflwyniad wedi’i drefnu ar gyfer y diwrnod cyntaf.

Roedd Hilary wedi creu cyffro go iawn a chynnwys tipyn o hiwmor; rhywbeth a oedd yn bwysig gan fod y sesiynau i gyd yn hirfaith ac yn gwneud defnydd o Powerpoint.

Roedd y gynulleidfa yn awyddus i glywed am y problemau a’r argymhellion ar gyfer STEM yng Nghymru, ond roedden nhw hefyd yn awyddus iawn i glywed sut mae newid go iawn yn cael ei gyflawni yng Nghymru trwy roi mesurau ymarferol ar waith.

Nodwyd bod rhaglen Athena Swan a gwaith Chwarae Teg yn enghreifftiau o arfer da, ac roedd yna gefnogaeth frwd i’r bwriad i gyflwyno hyfforddiant ar ragfarn ddiarwybod yn y broses recriwtio ar gyfer STEM; rhywbeth a oedd yn thema gyffredin ar draws y digwyddiad.

Felly, cafwyd newid mawr o’r diwrnod cyntaf, pan oedd pobl yn synnu ar ein presenoldeb yn y digwyddiad, ac yn synnu mwy fyth o glywed ein henw.

Ar yr ail ddiwrnod, roedd pobl yn ail-drydar ein negeseuon, yn cymryd ein cardiau busnes ac, yn bwysicach fyth, yn gwneud nodiadau ar sut i fabwysiadu mentrau o Gymru ledled Ewrop.

Diolch yn fawr i Hilary am hyrwyddo ein gwaith ac i drefnwyr y digwyddiad sy’n ei redeg fel uwchgynhadledd ddielw; gan gadw cydraddoldeb rhywiol mewn STEM ac ymchwil ar y map Ewropeaidd.

 

Ysgrifennwyd gan Amy Kordiak, @AmyKordiak.