Yr wythnos hon ( 27 Ionawr 2015 ) bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod cyni fel rhan o ddadl a gyflwynwyd gan Blaid Cymru sy’n galw am roi terfyn ar wleidyddiaeth gyni.

Mae’r ddadl yn siŵr o fod yn un fywiog gyda’r pleidiau’n rhanedig ynghylch manteision a chost cyni yn y DU ac yng Nghymru.

Yn aml iawn, gall trafodaethau am gyni fethu ystyried i ba raddau mae polisïau a gynlluniwyd i leihau’r diffyg yn effeithio ar wahanol grwpiau. Ers 2010 a dechrau’r agenda gyni mae llawer o grwpiau, a Chwarae Teg yn eu plith, wedi rhybuddio am effaith anghymesur y polisïau hyn ar fenywod.

Mae Cymdeithas Fawcett wedi galw hyn yn “berygl triphlyg” ( the triple jeopardy ) – menywod sy’n dioddef waethaf yn sgil toriadau i swyddi a chyflogau yn y sector cyhoeddus, sy’n dioddef waethaf yn sgil toriadau i wasanaethau cyhoeddus a budd-daliadau ac sy’n debygol o orfod llenwi’r bylchau pan fo gwasanaethau’n cael eu dileu.

Gall cost y perygl triphlyg hwn fod yn uchel iawn. Amcangyfrifwyd bod y sector cyhoeddus wedi colli 631,000 o swyddi ledled y DU ers 2010 ac y gallai miliwn o swyddi eraill ddiflannu erbyn 2019 ar sail cynlluniau’r gyllideb gyfredol.

Gan mai Cymru yw’r wlad sydd â’r ganran uchaf o weithwyr sector cyhoeddus, gallai colli’r swyddi hyn gael effaith sylweddol ar y wlad.

O gofio mai menywod yw mwyafrif gweithlu’r sector cyhoeddus, mae’n deg dweud mai nhw fydd yn dwyn baich toriadau pellach yn y maes hwn.

Er bod swyddi’n cael eu creu yn y sector preifat efallai nad dyma’r ateb wedi’r cwbl. Mae yna wahaniaeth sylweddol rhwng cyflogau cyfartalog menywod yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, gyda menywod y sector cyhoeddus yn ennill 2.2% – 3.1% yn fwy o gyflog ( Swyddfa Ystadegau Gwladol ).

Mae menywod y sector cyhoeddus hefyd yn llai tebygol o fod mewn swyddi hyfedr, 16% o gymharu â 42% ( Swyddfa Ystadegau Gwladol ).

Mae newidiadau i’r system les yn cael effaith arbennig o wael ar Gymru.

Mae toriadau i wasanaethau cyhoeddus a budd-daliadau hefyd yn effeithio mwy ar fenywod, gyda rhai yn amcangyfrif bod 74% o’r arbedion sy’n cael eu sicrhau drwy ddiwygio’r system les yn dod yn syth o bocedi menywod ( Cymdeithas Fawcett ).

Mae newidiadau i’r system les yn cael effaith arbennig o wael ar Gymru ac wrth i’r esgid wasgu ar wasanaethau fel trafnidiaeth gyhoeddus a gofal plant gall menywod orfod wynebu rhwystrau ychwanegol o ran eu gallu i weithio ac efallai y bydd rhaid iddynt lenwi’r bylchau pan fydd gwasanaethau’n cael eu torri.

Mae perygl i’r perygl triphlyg hwn wthio menywod ymhellach i ffwrdd o’r farchnad lafur. Ers 2006 mae’r DU wedi syrthio o’r 9fed safle yn y byd i’r 26ain, o safbwynt cydraddoldeb rhywiol. Ni allwn fforddio llithro ymhellach.

Rydym yn croesawu’r ddadl yr wythnos hon gan ei bod hi’n bwysig cael trafodaeth agored a diffuant am gyni. Fodd bynnag, mae’n hanfodol sicrhau bod effaith anghymesur y polisïau hyn ar fenywod yn elfen allweddol o’r trafodaethau hyn.

Mae anghydraddoldeb rhywiol yn parhau i fodoli yng Nghymru a’r DU. Er mwyn cael gwared ar hyn mae’n rhaid i ni sicrhau nad yw polisïau Llywodraethau’r DU a Chymru yn rhoi menywod o dan anfantais a bod camau’n cael eu cymryd i sicrhau nad yw menywod yn gorfod talu’r pris am gyni.

Gan Natasha Davies. Twitter: @daviesna2.