Fi yw Malala!

Mae’r trydarfyd wedi bod yn fwrlwm o drafodaethau ystyriol ac angerddol am araith ddiweddar Malala Yousafzai i’r Cenhedloedd Unedig. Mewn araith ddewr a dirdynnol, ail-ategodd Malala ei hymrwymiad i fynd i’r afael â chydraddoldeb rhywiol, gan gyfeirio at ei hun fel dim ond ‘un o blith llawer’ ( BBC World News ) a phlediodd am addysg i bawb.

Gan Laura Davies.

Mae’r cyd-destun hanesyddol a’r we wleidyddol wrth wraidd yr araith hon yn llawer rhy gymhleth i’w trafod yma, ond mae’r syniad creiddiol yna o gryfder mewn achos, os ydym ni i gyd yn ystyried ein hunain fel ‘un o blith llawer’ yn un y gallaf uniaethu ag ef.

Yn 2011, 19.5% oedd cyfartaledd y byd ar gyfer menywod mewn llywodraeth ( Guardian: Women in Politics ), ond dengys tystiolaeth bod addysg yn annog dinasyddiaeth weithgar drwy roi’r wybodaeth i ferched a bechgyn fel y gallant ddylanwadu ar gyfeiriad cymdeithas ac ymgysylltu â gwleidyddiaeth a democratiaeth fel oedolion ( Gender and Education for All: adroddiad UNESCO ) ac efallai y bydd mwy o bobl ifanc ( merched a bechgyn ) fel Malala yn cael yr hyder i leisio’u barn.

Er bod rhai yn y DU yn credu na ellir gwneud rhagor i godi ymwybyddiaeth o gydraddoldeb rhywiol yma, awgryma eitemau diweddar yn y newyddion fod lle i wella o hyd.

Dywedodd David Cameron yn ddiweddar mai Andy Murray oedd y Prydeiniwr cyntaf i ennill Wimbledon ers 1937 ( ar wahân i’r pedair menyw a gipiodd y teitl yn y cyfamser ) a bu’n rhaid cael ymgyrch ar-lein a llofnodion mwy na 35,000 o fenywod cyn i Fanc Lloegr gadarnhau y bydd yn sicrhau bod menyw’n ymddangos ar o leiaf un o’r papurau £5, £10, £20 a £50 ( gweler rôl gyhoeddus newydd Jane Austen ) a chydnabod bod angen adolygu ei feini prawf ar gyfer dewis pwy sy’n ymddangos ar ein harian papur.

Er nad oedd yn bwriadu tynnu unrhyw un i’w ben nac anwybyddu hanner y boblogaeth rwy’n siŵr, caewch eich llygaid am funud a dychmygwch pe bai’r esgid ar y droed arall – fyddai hynny ddim yn debygol o ddigwydd, greda’ i.

Gallwch ddod o hyd i enghreifftiau di-ri ar Twitter sy’n cefnogi’ch barn ( un o fendithion y cyfryngau cymdeithasu! ), ond anodd yw peidio teimlo wrth i ni barhau i annog y to iau i ystyried eu hunain fel rhan o fyd eang (drwy themâu addysgol rhagorol fel ACDCF – Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang yng Nghymru), y dylen ni fanteision ar bob cyfle i godi ymwybyddiaeth o gydraddoldeb rhywiol a’i effaith ar y dewisiadau a wnawn ni i gyd.

Os ydych chi’n cytuno â Malala ac yn credu eich bod yn un o blith llawer, yna mae’n ddyletswydd arnoch chi i beidio â bod ofn gofyn y cwestiynau anodd – ydyn ni wir wedi gorffen y sgwrs am gydraddoldeb rhywiol?