Rhwystrau i arferion gwaith modern ar gyfer busnesau yng Nghymru

Deall y rhwystrau / rhwystrau ymddangosiadol i fusnesau yng Nghymru o ran cynnig ffyrdd mwy modern o weithio i’w staff.


Ffotograff. Tu mewn. Holi ac Ateb gyda Mumsnet a Gransnet yn PwC. Jo Swinson, Is-Ysgrifennydd Gwladol dros Gysylltiadau Cyflogaeth, Defnyddwyr a Materion Post a dros Fenywod a Chydraddoldeb. Mehefin 30, 2014.

Gwelliannau sylweddol yn y degawdau diwethaf

Manteision sy’n gysylltiedig â rhoi Arferion Gwaith Modern ar waith i fusnesau yng Nghymru.

Ym mis Tachwedd 2013, fel rhan o’r prosiect Cenedl Hyblyg, comisiynodd Chwarae Teg Ymchwil Arad i gynnal ymchwil i’r rhwystrau a’r manteision sy’n gysylltiedig â rhoi Arferion Gwaith Modern ar waith i fusnesau yng Nghymru.

Amcanion penodol y gwaith ymchwil hwn yw:

Deall y rhwystrau / rhwystrau ymddangosiadol i fus nesau yng Nghymru o ran cynnig ffyrdd mwy modern o weithio i’w staff;

Bwrw golwg ar fusnesau sy’n cynnig patrymau gwaith amrywiol i staff ac archwilio’r manteision y mae busnesau wedi’u gweld ar ôl gweithredu’r mentrau hyn.

 

44% o fenywod o gymharu â 38% o ddynion.

Menywod yw hanner y boblogaeth gyffredinol a bron i hanner y gronfa dalent sydd ar gael i gyflogwyr. Yn y DU, maent wedi’u had dysgu’n well na dynion, gan ennill mwy o raddau addysg uwch (44% o fenywod o gymharu â 38% o ddynion) a chael gwell canlyniadau.

Mae sefydliadau sydd âg weithlu mwy amrywiol ac sydd â chyfran uwch o fenywod mewn swyddi uwch reoli yn perfformio’n well na gweddill eu sectorau.

Hefyd, wrth ystyried llafur am dâl a llafur di-dâl , yn yr UE mae menywod yn gweithio oriau hirach na dynion, oherwydd eu bod yn tueddu i fod yn gyfrifol am gyfran anghymesur o ddyletswydda u’r cartref.

Mae’n galonogol gweld bod gwelliannau sylweddol wed i bod i gydraddoldeb rhywiol yn y gweithle yn ystod y degawdau diwethaf, gyda chyfran uwch o fenywod yn dechrau gweithio ac yn aros mewn cyfloga eth ac mae mwy o fenywod yng Nghymru yn adrodd lefelau boddhad uchel gyda’u cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Fodd bynnag, mae’r bwlch cyflog a’r nenfwd gwydr bondigrybwyll yn parhau i fodoli yng Nghymru a’r DU.

 

Ar gael fel PDF.

Lawrlwythwch yr adroddiad hwn